Adrannau
Mae gan Blaid Cymru sawl adran swyddogol a grŵp cysylltiedig. Maent yn cynrychioli wahanol grwpiau o fewn ein cymdeithas o fewn y Blaid ac yn helpu cario neges Blaid Cymru i holl bobl Cymru. Mae aelodaeth o'r adrannau yma yn agored i bob aelod perthnasol o Blaid Cymru.
Plaid Anabledd
Cenhadaeth Plaid Anabledd yw i gefnogi hawliau anabledd o fewn Plaid Cymru ac ar lwyfannau cenedlaethol a byd-eang, ac anelu at sefydlu Cymru annibynnol, deg, a chymdeithasol gyfiawn – trwy geisio mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail anabledd a rhoi llais i unigolion anabl o fewn y Blaid a Chymru.
Rydym yn cadw at y Model Cymdeithasol o Anabledd, sy'n cyd-fynd â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl a deddfwriaeth hawliau dynol Cymru. Ein nod yw integreiddio lleisiau anabl ym mholisïau Plaid Cymru, gan gefnogi mynediad at waith, a meithrin cydweithio er mwyn cydraddoldeb.
Mae Plaid Anabledd yn meithrin amgylchedd cynhwysol, gan barchu amrywiaeth unigolion o ran rhywedd, rhywioldeb, anabledd, a hil, ac pharchu mynegiant personol o hunaniaeth.
[i'r brig]
Plaid BME
Nod adran Du a Lleiafrifoedd Ethnig Plaid yw ymgysylltu, grymuso ac eirioli lleisiau Du a Lleiafrifoedd Ethnig yng ngwleidyddiaeth Cymru. Rydyn ni eisiau helpu i ddatblygu Cymru sy'n wirioneddol gynrychioliadol o'i holl bobl, trwy greu diwylliant a gofod o fewn Plaid lle mae pob aelod yn teimlo ei fod yn cael ei weld, ei glywed a'i gefnogi trwy gynyddu aelodaeth, rhwydweithio, hyfforddiant a chynrychiolaeth. Rydym yn cydnabod bod y frwydr yn groestoriadol ac rydym eisiau gweithio gydag adrannau eraill i ymladd fel grŵp ar y cyd yn erbyn ffurfiau gwahaniaethu ac anghydraddoldeb unigol a sefydliadol.
Dewch i ymuno â ni i ddathlu a gwerthfawrogi gwahaniaeth ac i ymhelaethu ar leisiau nas clywir yn aml wrth gryfhau ein plaid.
[i'r brig]
Cymdeithas Cynghorwyr
Cymdeithas Cynghorwyr - Councillor’s Association
Dyma’r gymdeithas sydd wedi ei sefydlu er mwyn cynorthwyo’r Blaid i gyflawni holl amcanion Llywodraeth Leol, gan gynnwys Cynghorau Sir a Chynghorau Tref a Chymuned.
Mae’r gymdeithas yn cefnogi ac yn cynorthwyo bob cynghorydd presennol sydd wedi eu hethol ar ran Plaid Cymru ar bob haenen o lywodraeth leol. Rydym yn gweithredu fel corf ymchwil ar ran ein cynghorwyr ac yn helpu i gydlynu gwaith Plaid Cymru mewn llywodraethau lleol ar hyd a lled ein gwlad.
Rydym hefyd yn annog aelodau Plaid Cymru i sefyll dros y blaid mewn etholiadau lleol a dod yn gynghorwyr eu hunain, ar draws Cymru.
Mae’r Gymdeithas Cynghorwyr yn cwrdd sawl gwaith y flwyddyn, gan gynnwys Cyfarfod Blynyddol. Rydym yn cynnal stondin yn Gynadleddau’r Blaid er mwyn i bobl cael dod a sgwrsio gyda ni.
Mae gennym gylchgrawn, Cyngor ac rydym yn cynhyrchu deunyddiau eraill sydd o fudd i’n haelodaeth.
Yn bwysicaf oll, rydym yma i gynnal ein gilydd ac yn rhannu syniadau ar sut gallwn ennill Cymru Newydd.
[i'r brig]
Plaid Ifanc
Ni yw Plaid Ifanc - adran ieuenctid Plaid Cymru i aelodau rhwng 14 a 30 oed.
Dyma beth rydyn ni'n ei wneud:
- Cynrychioli ein cymunedau yn lleol ac yn genedlaethol, drwy fynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar bobl ifanc.
- Hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd, iaith, hil; ymwybyddiaeth amgylcheddol; hawliau pobl LDHT; a chyfiawnder cymdeithasol.
- Meithrin perthynas dda â'n chwaer bleidiau yn Ewrop ac ar draws y byd.
- Trafod pam dylai ein cenhedlaeth ni ymddiddori mewn gwleidyddiaeth.
- Creu Cymru sy'n gallu sefyll ar ei thraed ei hun fel gwlad annibynnol.
Gwna wahaniaeth. Ymuna â ni.
[i'r brig]
Merched Plaid
Adran Ferched Plaid Cymru yw Merched Plaid. Yn yr oes hon o #metoo, bylchau cyflog rhwng y rhywiau a gwahaniaethu sefydliadol, mae'n cynnig lle diogel i ferched drafod, ysgogi a chydweithio ar faterion sy'n bwysig iddyn nhw, ac ar yr un pryd yn annog y blaid i weithredu ar y materion hyn.
Y mae hefyd yn ceisio hyrwyddo mwy o gynrychiolaeth i ferched yn y byd gwleidyddol, ac yn ymgyrchu i greu Cymru deg, gyfartal a chynhwysol.
[i'r brig]
Plaid Pride
Grwp o fewn Plaid Cymru yw Plaid Pride sy’n cynrychioli aelodau a chefnogwyr y blaid sy’n dynodi eu hun fel LHDTQRA+ neu sy’n cefnogi pobl LHDTQRA+. Ein gwaith yw i gefnogi hawliau pobl LHDTQRA+ yng Nghymru, Ewrop ag ar lefel byd-eang, a siapio polisïau o fewn Plaid Cymru. Ein nôd craidd yw sefydlu Cymru annibynnol sy’n weriniaeth ac yn gyfartal, yn gyfiawn ag yn deg yn gymdeithasol.
Mae Plaid Pride yn fan diogel, hollgynhwysol a chroesawgar, sy’n parchu rhywioldeb, rhyw a hil pobl, ac yn parchu, yn enwedig, nad yw rhyw a rhywioldeb pawb bob amser yn cael eu mynegi’n gyhoeddus. Mae croeso i unrhyw un sydd yn LHDTQRA+ fynychu ein cyfarfodydd. Rydym hefyd yn croesawu 'Allies', hynny yw, y rheiny sydd am gefnogi'r gymuned LHDTQRA+.
Gallwch ymuno â Phlaid Pride yma (nid yw hyn yn cynnwys aelodaeth o Blaid Cymru).
[i'r brig]
Undeb
Undeb yw rhwydwaith Plaid Cymru o aelodau o Undebau Llafur. Rydym yn ymgyrchu fel rhan o Blaid Cymru ar faterion undebau llafur o fewn ein hundebau ein hunain ac o fewn y mudiad gweithwyr ehangach. Rydym yn weithgar yn ymgyrchu dros gydraddoldeb o fewn y mudiad gweithwyr, ac yn ymladd ffasgiaeth, hiliaeth, rhywiaeth a homoffobia ble bynnag y codwyd.
Rydym yn brwydro yn erbyn contractau dim oriau, amodau gwaith ansefydlog, ecsbloetio gweithwyr ifanc a mewnfudwyr, yn ogystal ag amddiffyn swyddi yn y sectorau cyhoeddus a gwasanaethau. Mae’r materion yma yn hollbwysig er mwyn creu Cymru annibynnol.
Rydym hefyd yn llawn ymwybodol o’r newidiadau mawr sydd yn digwydd yn economi Cymru gyda gweithwyr yn wynebu elfennau newydd o ecsbloetio trwy’r economi gig. Rydym yn awyddus i wella amodau gweithio pobl sydd wedi eu gorfodi i ddod yn weithwyr ar eu liwt eu hunain neu sydd yn hunangyflogedig wrth weithio i un cyflogydd.
Mae ennill gweithwyr draw at Blaid Cymru yn hanfodol er mwyn dorri’r cysylltiad yna ac ennill Cymru annibynnol.
[i'r brig]