Economi a Threthiant
Bu’r pedair blynedd ar ddeg o Lywodraeth Dorïaidd yn y DG yn niweidiol iawn yn economaidd i bobl, teuluoedd a busnesau yng Nghymru.
Dan David Cameron, dilynodd y llywodraeth Dorïaidd raglen ariannol o doriadau enbyd i wasanaethau cyhoeddus, yn enw llymder. Tanseiliwyd masnach ryngwladol y DG gan y Brexit caled a fabwysiadwyd gan Theresa May a Boris Johnson fel ei gilydd. Yna arweiniodd Liz Truss yr economi i chwalfa. Rydym yn byw gyda gwaddol yr holl enghreifftiau hyn o ddiffyg crebwyll economaidd y Ceidwadwyr, sy’n cael ei adleisio gan Lafur sydd eisoes wedi ymrwymo i’w cynlluniau gwario.
Cyhyd ag yr erys Cymru yn rhan o’r DG, cred Plaid Cymru mai rôl Llywodraeth y DG yng Nghymru ddylai fod yn un o ddarparu digon o gefnogaeth ariannol i’n gwasanaethau cyhoeddus a chreu’r amodau ar gyfer y math o dwf economaidd cynaliadwy fydd o les i’r holl bobl ac i’n holl gymunedau, nid dim ond y rhai sydd ar y brig.
Nid dyma a gawsom gan Lywodraethau’r DG. Mae ein gwasanaethau cyhoeddus wedi eu tangyllido ac wedi eu gwanhau, ac y mae’n heconomi wedi arafu. Arweiniodd yr amodau economaidd hyn at lefelau hollol annerbyniol o amddifadedd i blant, ac y mae’n ffaith dorcalonnus fod un o bob tri phlentyn bellach yn tyfu i fyny mewn tlodi.