Cymru a'r Byd

Crynodeb

  • Newid targed Cymru ar gyfer dim allyriadau carbon o 2050 i 2035, gan ddangos ein hymrwymiad i Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.
  • Yn meithrin partneriaeth agos gydag Iwerddon, drwy sefydlu swyddfa gynrychioliadol yn Nulyn.
  • Datblygu strategaeth allforio i fusnesau Cymru, gan gynnwys cysylltiadau agos gyda rhanbarthau’r Undeb Ewropeaidd, lle mae cydberthnasau wedi’u sefydlu ganddon ni eisoes.
  • Archwilio opsiynau i Gymru annibynnol ddod yn aelod o Gymdeithas Masnach Rydd Ewrop.
  • Gwella rhaglen Cymru ac Affrica drwy estyn cefnogaeth i grwpiau yng Nghymru sydd eisoes yn gweithio mewn dros 25 o wledydd Is-Sahara.
  • Treialu prosiect ar gadw mewn cysylltiad â phobl ifanc sy’n gadael Cymru ar gyfer addysg uwch neu gyflogaeth gychwynnol i greu cronfa ddata o ddoniau ar wasgar.

Darllen mwy