Trafnidiaeth

Crynodeb

  • Darparu trafnidiaeth bysiau am ddim i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed.
  • Gwneud buddsoddiad trawsnewidiol mewn trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith teithio llesol, gan leihau defnydd o geir yn sylweddol, gyda’r nod o haneru cyfran y teithiau a wneir â char erbyn 2030.
  • Bydd Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am greu rhwydwaith trenau a bysiau ledled Cymru, gan gysylltu’r goledd a’r de a galluogi cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus rhwng pob canolfan boblogaeth sylweddol.
  • Creu rheilffordd newydd arfordir y gorllewin i gysylltu’r gogledd a’r de, ac adeiladu CroesReilffordd y Cymoedd i gysylltu’r dwyrain a’r gorllewin.
  • Darparu band llydan gigabit cyflym iawn i bob cartref a busnes yng Nghymru erbyn 2026.
  • I ddisodli hen gynlluniau Ffordd Liniaru’r M4, byddwn ni’n gwella prif wasanaethau rheilffordd y de, gan gynnwys adeiladu chwe gorsaf newydd rhwng Cyffordd Twnnel Hafren a Chaerdydd.

Darllen mwy