Haneru’r teithiau â char erbyn 2030

Ein nod yw lleihau’r defnydd o geir i 50 y cant o bob taith erbyn 2030, gyda 30 y cant yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, 10 y cant yn cerdded, a 10 y cant yn beicio.

Er mwyn cyflawni’r lefel hon o newid, rydyn ni’n rhagweld symudiad sylweddol o ran buddsoddiad cyfalaf o ffyrdd i drafnidiaeth gyhoeddus. Rydyn ni am symud Cymru oddi wrth system sydd wedi’i dominyddu gan geir petrol, tuag at drafnidiaeth fwy cynaliadwy. Byddwn ni’n dyrannu o leiaf 50 y cant o wariant cyfalaf trafnidiaeth ar wella gwasanaethau bysiau a threnau.

Byddwn ni’n archwilio’r defnydd o rymoedd ariannol ac eraill i leihau’r defnydd o geir. Gallai mesurau gynnwys cyfyngu ar barcio yng nghanol dinasoedd, prisiau ffyrdd gwahaniaethol, gan gydnabod y cyd-destun gwahanol mewn cymunedau cefn gwlad. Byddwn ni’n cyflwyno targed ar gyfer lleihau traffig ffordd yng Nghymru, gyda cherrig milltir pum mlynedd, fel rhan o’r gofyniad cyfreithiol i gyflawni allyriadau carbon sero-net.

Tagfeydd yr M4

Mae Plaid Cymru’n gwrthwynebu cynnig Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n ddrud a niweidiol i’r amgylchedd, ar gyfer ffordd liniaru traffordd M4 i’r de o Gasnewydd. Byddai’r £1.6 biliwn y byddai hyn yn ei gostio yn cymryd lle llawer o brosiectau mwy teilwng, gan gynnwys gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru. Byddai’n niweidiol i’r amgylchedd, yn uniongyrchol i Forfa Gwent, ac yn anuniongyrchol drwy allyriadau carbon a llygredd. Ei effaith fyddai cynyddu cymudo â char ymhellach, a gwthio tagfeydd ar yr M4 yn nes at y gorllewin.

Gyda chwe chyffordd traffordd, ond dim ond un orsaf rheilffordd, mae angen mwy o orsafoedd ar Gasnewydd, ac nid mwy o draffig traffordd. Rydyn ni’n cefnogi argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru gan yr Arglwydd Burns i ddiweddaru prif lein rheilffordd y de i ddarparu chwe gorsaf newydd a gwasanaeth cymudo gwell.

Byddwn ni’n datblygu cynllun seilwaith cynhwysfawr ar gyfer trydaneiddio cerbydau. Byddwn ni’n buddsoddi mewn rhwydwaith gwefru dan berchnogaeth y cyhoedd, gan gynnwys y genhedlaeth nesaf o bwyntiau gwefru cyflym iawn mewn gorsafoedd petrol ledled Cymru. Bydd ein cwmni ynni cenedlaethol yn sicrhau bod y grid ynni’n cadw’n gyfredol â’r galw ac yn sicrhau bod ein ceir trydan newydd yn cael eu pweru gan ynni lleol ac adnewyddadwy lle bo’n bosib.

Yn ogystal:

  • Erbyn 2025, byddwn ni’n hwyluso’r gwaith o greu parthau allyriadau isel yn Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam,
  • Byddwn ni’n buddsoddi mewn seilwaith gwefru i annog pobl i ddefnyddio cerbydau trydan.
  • Bydd gofyn i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus ddarparu pwyntiau trydaneiddio ym mhob maes parcio cyhoeddus, ac i reoleiddio i sicrhau bod darpariaeth mewn meysydd parcio preifat sydd â lle i fwy na 100 o gerbydau.
  • Byddwn ni’n rheoleiddio i sicrhau bod gan 10 y cant o bob gofod parcio mewn datblygiadau preswyl orsafoedd gwefru.
  • Byddwn ni’n sefydlu Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol i gynghori deiliaid tai ar osod pwyntiau gwefru domestig ar gyfer cerbydau trydan, a defnydd o ffynonellau gwefru ychwanegol fel paneli solar. Byddwn ni’n cefnogi gwefru cost-effeithiol yn y gweithle.
  • Byddwn ni’n gweithio gyda chyrff cyhoeddus i gwael gwared yn raddol â cheir petrol a disel o stoc gerbydau’r sector cyhoeddus erbyn 2025, ac ni fydd ceir petrol a disel masnachol ysgafn newydd yn cael eu prynu erbyn 2027.
  • Byddwn ni’n anelu i roi diwedd yn raddol ar werthu ceir a faniau newydd petrol a disel yn unig yng Nghymru erbyn 2027 – dair blynedd yn gynharach na gweddill y Deyrnas Unedig.
  • Byddwn ni’n archwilio cynigion ar gyfer priffyrdd a thwneli ar gyfer ceir trydan yn unig mewn ardaloedd â llygredd a thagfeydd uchel.

Trafnidiaeth: darllen mwy