Newid Hinsawdd ac Ynni

Mae Plaid Cymru yn cydnabod mai’r argyfyngau hinsawdd a natur yw’r bygythiad mwyaf i ddynol ryw ar raddfa fyd-eang, ac yr ydym yn ail-ddatgan ein hymrwymiad i gyrraedd targedau sero-net yng Nghymru erbyn 2035 a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth erbyn 2030. Mae hyn yn galw am gydweithredu a chynllunio i’r trosi fod yn gyfiawn.

Mae gennym oll ran i’w chwarae i daclo’r argyfwng byd-eang. Mae rhagolygon wedi dangos yn glir fod y byd ar lwybr i droi’n blaned na fydd modd byw arni. Gall Cymru chwarae ei rhan i sicrhau fod y byd yn newid, a rhaid gwneud hyn – a rhaid ei wneud mewn ffordd deg a chyfiawn i’r genhedlaeth hon a’r oesoedd a ddêl.

Cred Plaid Cymru fod gwir angen mwy o fuddsoddi mewn swyddi gwyrdd a throsi i ddulliau newydd o adeiladu, fel nad yw gweithwyr yng Nghymru yn cael eu taflu ar y domen, ond yn hytrach eu bod yn cael eu cefnogi i swyddi gyda sgiliau newydd a chyflogau da.

Byddai Plaid Cymru yn rhoi blaenoriaeth i waith i liniaru effeithiau newid hinsawdd yn ein cymunedau, ac mewn ffyrdd sy’n cymryd i ystyriaeth effeithiau seicolegol yn ogystal â ffisegol yr argyfwng hwn. Dylai cwricwlwm yr ysgol roi i bobl ifanc yr arfogaeth i ddeall newid hinsawdd ac annog athrawiaeth o ymwneud â newid hinsawdd a’r byd naturiol.

Byddwn yn gwneud yn siŵr fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DG yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifri i amddiffyn aelwydydd trwy fuddsoddi mewn seilwaith i atal neu liniaru digwyddiadau o lifogydd.

Oherwydd eu heffaith o waethygu newid hinsawdd, byddwn yn cynyddu’r Dreth Teithwyr Awyr a’r dreth cerosin ar awyrennau jet preifat.


Darllen mwy