Amaeth, Cefn Gwlad a Thwristiaeth
Crynodeb
- Ailffocysu cefnogaeth er mwyn helpu ffermwyr i drosglwyddo at ffurfiau mwy cynaliadwy, amrywiol ac ecogyfeillgar o ddefnyddio’r tir.
- Gweithredu Bil Amaethyddiaeth i Gymru a fydd yn rhoi mwy o bwyslais ar les cyhoeddus fel datgarboneiddio, cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a mwy o fioamrywiaeth.
- Sefydlu Senedd Wledig ymgynghorol i gryfhau llais cymunedau cefn gwlad.
- Creu Comisiwn y System Fwyd traws-sectorol i ddatblygu strategaeth fwyd gyfannol i Gymru.
- Cefnogi symudiad tuag at dwristiaeth ddiwylliannol i hyrwyddo ein diwylliant amrywiol i’r byd, a chyfrannu at statws y Gymraeg fel iaith fyw.
- Dynodi 2023 fel blwyddyn Gŵyl Cymru i arddangos ein cynnig twristiaeth amrywiol i’r byd.