Mae grŵp Senedd Plaid Cymru yn llawn egni newydd a syniadau newydd ac yn barod i wasanaethu cymunedau Cymru. Dysgwch fwy am bob aelod o'r Senedd isod.

Mabon ap Gwynfor - Dwyfor Meirionnydd
Rhun ap Iorwerth - Ynys Môn
Cefin Campbell - Canolbarth a Gorllewin Cymru
Luke Fletcher - Gorllewin De Cymru
Heledd Fychan - Canol De Cymru
Llŷr Huws Gruffydd - Gogledd Cymru
Siân Gwenllian - Arfon
Delyth Jewell - Dwyrain De Cymru
Elin Jones - Ceredigion
Peredur Owen Griffiths - Dwyrain De Cymru
Adam Price - Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Sioned Williams - Gorllewin De Cymru


Mabon ap Gwynfor

Mabon ap Gwynfor MS

Etholaeth: Dwyfor Meirionnydd

Portffolio: Amaethyddiaeth, Materion Gwledig, Tai, Cynllunio a Llywodraeth Leol; Prif Chwip

Meddai Mabon: "Fy enw i yw Mabon ap Gwynfor ac rwy'n byw gyda fy ngwraig, Nia, a phedwar o blant ar fferm y teulu yng Nghynwyd. Yn flaenorol roeddwn yn rheolwr gogledd Cymru ar gyfer un o elusennau iechyd mwyaf y DU, a chyn hynny roeddwn yn rhedeg Tŷ Siamas yn Nolgellau.

Byddaf yn defnyddio pa bynnag swydd yr wyf ynddo i geisio cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn cywiro llawer o'r camweddau a welsom yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Materion fel sicrhau darpariaeth tai fforddiadwy; rheoli gwerthu tai; gwell rhwydweithiau cyfathrebu digidol; sicrhau bod gwasanaethau allweddol mor agos â phosibl i'n cymunedau; creu amodau i ganiatáu i'n diwylliant ffynnu a'n hamgylchedd wella; datganoli sefydliadau cyhoeddus a buddsoddi mewn seilwaith gwledig.

Rydyn ni'n gwybod y problemau, mae gennym ni atebion, mae angen llywodraeth arnom nawr i roi'r atebion hynny i weithio er budd pawb."

Manylion Cyswllt - gwefan y Senedd

I'r brig


Rhun ap Iorwerth

Rhun ap Iorwerth MS

Etholaeth: Ynys Môn

Portffolio: Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Comisiynydd Senedd

Meddai Rhun: "Rwy'n ŵr a thad a anwyd yn y de ond a fagwyd yn y gogledd. Rwy’n ddarlledwr proffesiynol a newyddiadurwr, chwaraewr chwaraeon a cherddor amatur, a etholwyd gyntaf i'r Senedd mewn isetholiad yn 2013. Mae fy rôl ddiweddaraf i'r Senedd wedi bod fel Gweinidog Iechyd a Gofal Cysgodol Plaid Cymru, gan ddwyn y Llywodraeth i gyfrif yn ystod y pandemig.

Gwasanaethu pobl fy nghymuned a fy ngwlad yn ein Senedd genedlaethol yw'r anrhydedd uchaf y gallwn ei chael. Bydd y cyfnod o'n blaenau yn ymwneud i raddau helaeth ag ailadeiladu ar ôl y pandemig. Ond ni all hynny olygu ailadeiladu pethau yn ôl ‘fel yr oeddent’. Mae'n rhaid i ni adeiladu gwasanaethau cyhoeddus mwy cynaliadwy ac economi fwy deinamig yn seiliedig ar ein cryfderau a'n hanghenion fel cenedl. Ac mae'n rhaid i ni fachu ar y cyfle ehangach i adeiladu cenedl Cymru, gan dynnu grym i ffwrdd o San Steffan a sefydliad yn y DU na fydd byth yn blaenoriaethu nac yn gweithio i Gymru."

Manylion Cyswllt - gwefan y Senedd

I'r brig


Cefin Campbell

Cefin Campbell MS

Rhanbarth: Canolbarth a Gorllewin Cymru

Portffolio: Aelod Dynodedig

Meddai Cefin: "Cefin Campbell ydw i, yn briod gyda thair merch. Cefais fy ngeni yn Glanaman, pentref cloddio glo yn Nyffryn Aman ond rydw i bellach yn byw yn Llandeilo wledig. Rwy'n gyn-ddarlithydd wedi gweithio ym Mhrifysgolion Abertawe a Chaerdydd.

Yng nghyd-destun Canolbarth a Gorllewin Cymru, fy mlaenoriaeth fyddai datblygu strategaeth eang ar gyfer adfywio ein cymunedau gwledig - yn economaidd, yn gymdeithasol, yn amgylcheddol a diwylliannol, gwella'r ddarpariaeth band eang, a delio â'r argyfwng ail gartrefi sydd mewn sawl ardal yn cael effaith niweidiol ar argaeledd cartrefi fforddiadwy i bobl leol.

Ar lefel ehangach mae angen i'r Senedd ddwysau integreiddio gofal cymdeithasol ac iechyd, mynd i'r afael â thlodi plant. a chreu rhaglen ynni gwyrdd uchelgeisiol."

Manylion Cyswllt - gwefan y Senedd

I'r brig


Luke Fletcher

Luke Fletcher MS

Rhanbarth: Gorllewin De Cymru

Portffolio: Economi

Meddai Luke: "Wedi fy ngeni ym Mhencoed, mynychais Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ar gyfer yr ysgol gynradd, Ysgol Llanhari ar gyfer ysgol uwchradd ac yna Prifysgol Caerdydd ar gyfer fy ngraddau israddedig a Meistr. Gweithiais mewn bar yn y sector lletygarwch am ryw 5 mlynedd cyn dod yn ymchwilydd Economi a Chyllid.

Mae nifer o faterion yn wynebu Cymru ar hyn o bryd, yn bennaf yn eu plith, i mi, yw tlodi. Mae mwy a mwy o bobl yn dibynnu ar wasanaethau fel banciau bwyd i oroesi. Rwy'n credu ei fod yn fater brys ein bod yn mynnu grym dros weinyddu lles i'r Senedd fel y gallwn deilwra ein system les i ddiwallu anghenion pobl sy'n byw yng Nghymru.

Blaenoriaeth i mi yw mynd i'r afael â thlodi a'i achosion felly byddwn yn edrych i gwrdd ac i helpu sefydliadau sy'n gweithio yn y maes hwnnw ar draws yr etholaeth - ochr yn ochr â lobïo dros newid gyda Llywodraeth Cymru. Ochr yn ochr â hyn, mae potensial gwirioneddol yn fy ardal i ni fod ar flaen y gad mewn 'chwyldro diwydiannol gwyrdd'. Byddwn i eisiau ein rhoi ni ar y map fel y lle i fod yng Nghymru ar gyfer ymchwilio a datblygu technolegau gwyrdd, dod â swyddi sy'n talu'n dda i'n hardal leol, a sicrhau bod pobl sydd eisiau aros yn yr ardal leol - ac eisiau swyddi o ansawdd da sy'n talu'n dda - yn gallu gwneud hynny."

Manylion Cyswllt - gwefan y Senedd

I'r brig


Heledd Fychan

Heledd Fychan MS

Rhanbarth: Canol De Cymru

Portfolio: Plant, Pobl Ifanc a'r Gymraeg; Cadeirydd y Grŵp

Meddai Heledd: "Fy enw i yw Heledd ac rwy'n byw ym Mhontypridd gyda fy ngŵr a'n mab 7 oed. Mae rhaid i ni gefnogi cymunedau ledled Cymru adfer o effaith COVID-19. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal ag addysg, a chefnogi busnesau a gweithwyr llawrydd sydd wedi colli incwm oherwydd cyfyngiadau.

Yn ail, rhaid inni weithredu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae gennym ddeng mlynedd i achub ein planed, ac mae angen Llywodraeth arnom a fydd yn blaenoriaethu gweithredu yn hytrach na gwneud addewidion gwag.

Yn drydydd, mae angen i ni sicrhau bod mwy o benderfyniadau ynghylch dyfodol Cymru yn cael eu gwneud yng Nghymru. I mi, mae hyn yn golygu sicrhau ac ennill refferendwm ar annibyniaeth fel y gallwn reoli ein tynged ein hunain fel cenedl."

Manylion Cyswllt - gwefan y Senedd

I'r brig


Llŷr Huws Gruffydd

Llŷr Huws Gruffydd

Arweinydd Gweithredol

Rhanbarth: Gogledd Cymru

Portffolio: Cyllid; Aelod Dynodedig

Meddai Llŷr: "Rwyf wedi cynrychioli Rhanbarth Gogledd Cymru yn y Senedd er 2011. Yn yr amser hwnnw, rwyf wedi gwasanaethu fel Gweinidog Cysgodol Addysg Blaid Cymru ac yn fwyaf diweddar fel Gweinidog yr Wrthblaid dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Mae'n rhaid i'r Senedd yn y blynyddoedd i ddod flaenoriaethu mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth sy'n ein hwynebu. Mae cyflymder a graddfa'r ymateb gan y Llywodraeth flaenorol wedi bod yn druenus o annigonol ac mae'n rhaid i hyn newid.

Wrth inni ddod allan o'r pandemig Covid mae gennym gyfle prin i newid y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau ac mae'n rhaid i'r Lywodraeth Cymru nesaf arwain y newid yn broactif. Byddaf yn llais cryf dros ogledd Cymru yn y Senedd, gan sicrhau'n gyson nad ydym yn cael ein hesgeuluso na'n cael ein gadael ar ôl. Byddaf hefyd yn rhoi ffocws di-baid ar fynd i'r afael â thlodi - yn enwedig tlodi plant. Fel tad i bedwar rwy'n benderfynol bod pob person ifanc yn cael y cyfle gorau mewn bywyd."

Manylion Cyswllt - gwefan y Senedd

I'r brig


Siân Gwenllian

Siân Gwenllian MS

Etholaeth: Arfon

Portffolio: Aelod Dynodedig Arweiniol

Meddai Siân: "Rwy'n byw yn Y Felinheli yn etholaeth Arfon lle cefais fy magu. Magais fy mhedwar plentyn fel rhiant sengl pan gollais fy ngŵr Dafydd i ganser ym 1999. Rwyf wedi gweithio ym maes newyddiaduraeth a chyfathrebu ac yn 2008 cefais fy ethol i Gyngor Gwynedd yn cynrychioli fy mhentref genedigol. Plaid Cymru yw'r blaid sy’n sefyll dros gymunedau, ac fel yr AS ar gyfer Arfon, rwyf am gefnogi busnesau lleol i adfer a thyfu ôl-Covid.

Fel yr wyf wedi gwneud dros y 5 mlynedd diwethaf, byddaf yn gweithio'n galed i ddatblygu dinas Bangor fel canolfan ragoriaeth ar gyfer gofal iechyd ac addysg, gan gynnwys dod â hyfforddiant meddygon a deintyddion i Fangor. Fel rhan o gynllun Plaid Cymru ledled y wlad i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, byddaf hefyd yn gweithio’n galed dros system drafnidiaeth gyhoeddus integredig ar gyfer yr etholaeth gyfan."

Manylion Cyswllt - gwefan y Senedd

I'r brig


Delyth Jewell

Delyth Jewell MS

Rhanbarth: Dwyrain De Cymru

Portffolio: Newid Hinsawdd, Ynni a Thrafnidiaeth

Meddai Delyth: "Cefais fy ngeni yn Ysbyty'r Glowyr yng Nghaerffili, cefais fy magu yn Ystrad Mynach ac es i'r ysgol yn Bargoed. Rwy'n hynod falch o fod o'r ardal hon, ac mae wedi bod yn anrhydedd cynrychioli fy rhanbarth cartref yn y Senedd.

Byddaf yn parhau i hyrwyddo anghenion ein cymunedau, gan gynnwys ymladd am fuddsoddiad yn ein trefi yn y cymoedd sydd wedi cael eu hesgeuluso cyhyd, gan chwilio am gyfleoedd i bobl ifanc gael llais wrth wneud penderfyniadau (wedi'r cyfan, eu dyfodol nhw yw e) a sicrhau mwy o adnoddau i ddelio ag anghenion iechyd a gofal ein pobl.

Rwyf am weld mwy o gefnogaeth cwnsela i blant sydd wedi gorfod delio â straen di-baid yn ystod y cyfnod clo, ac i hybiau iechyd meddwl gael eu gosod ym mhob canol tref."

Manylion Cyswllt - gwefan y Senedd

I'r brig


Elin Jones

Elin Jones MS

Llywydd

Etholaeth: Ceredigion

Meddai Elin: "Elin Jones ydw i, rydw i wedi cynrychioli Ceredigion yn y Senedd er 1999. Yn yr amser hwnnw, rydw i wedi bod yn Weinidog yn Llywodraeth Cymru'n Un, ac yn y tymor diwethaf, y Llywydd. Yn y rôl hon, rydw i wedi goruchwylio newid enw'r Cynulliad i Senedd, a phleidleisio i bobl ifanc 16 a 17 oed.

Rwyf hefyd wedi parhau i fod yn weithgar ym mywyd gwleidyddol Ceredigion, gan weithio gydag etholwyr a chymunedau i godi materion gyda Llywodraeth Cymru, y Cyngor a'r bwrdd iechyd, ac i gyflawni newidiadau cadarnhaol yn fy etholaeth. Un o fy llwyddiannau balchaf fu arwain yr ymgyrch i sicrhau dyfodol Ysbyty Bronglais - ysbyty strategol bwysig nid yn unig i Geredigion, ond canol Cymru gyfan.

Ar gyfer y pum mlynedd nesaf mae'n rhaid ailadeiladu ein cymdeithas a'n cymunedau ar ôl Covid. Byddaf yn parhau â'r frwydr am wasanaethau iechyd modern, hygyrch i Geredigion. Mae angen buddsoddiad parhaus ar Bronglais a digon o staff sydd wedi'u hyfforddi'n lleol. Mae angen i wasanaethau iechyd meddwl fod yn gryfach, yn y gymuned ac mewn gofal argyfwng, a mwy o wasanaethau deintyddol yn cael eu darparu'n lleol."

Manylion Cyswllt - gwefan y Senedd

I'r brig


Peredur Owen Griffiths

Peredur Owen Griffiths MS

Rhanbarth: Dwyrain De Cymru

Portffolio: Cymunedau, Pobl Hŷn, Cyfansoddiad a Chyfiawnder

Meddai Peredur: "Fy enw i yw Peredur Owen Griffiths, ond mae rhai yn fy ngalw yn Pred. Gan fy mod yn fab i weinidog, roeddwn eisoes wedi byw mewn sawl rhan wahanol o Gymru erbyn imi fynd i'r ysgol uwchradd. O gael fy nghroesawu i gymuned wledig Pumsaint yn Sir Gaerfyrddin; gwylio'r badau achub yn brwydro moroedd gwyllt Moelfre yn Ynys Môn, i weithio gyda milfeddyg ar draws tiroedd fferm Dyffryn Clwyd a Sir y Fflint - Cymru yw fy nghartref.

Anwybyddwyd Blaenau Gwent a Rhanbarth Dwyrain De Cymru ehangach, cawsant eu cymryd yn ganiataol a'u gadael i ddrifftio'n economaidd ac yn gymdeithasol. Mae Llafur wedi addo'r ddaear ac wedi cyflawni ychydig iawn. Ni allant - neu ni fyddant - ein gwarchod rhag lywodraeth Dorïaidd yn San Steffan.

Byddaf yn ein rhoi yn ôl ar y map - gan sicrhau nad yw Blaenau Gwent a rhanbarth ehangach De Cymru yn cael ei anwybyddu na'i gymryd yn ganiataol mwyach; byddaf yn gwthio i ddiwygio'r system dreth gyngor annheg lle mae'r biliau treth cyngor uchaf yn taro rhannau tlotaf Cymru."

Manylion Cyswllt - gwefan y Senedd

I'r brig


Adam Price

Adam Price MS

Etholaeth: Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Portffolio: Diwylliant, Chwaraeon, Materion Rhyngwladol ac Arloesedd

Meddai Adam: "Cefais fy ngeni yng Nghaerfyrddin i deulu o löwyr. Wedi fy addysg yn Ysgol Dyffryn Aman, darganfyddais fy neffroad gwleidyddol yn ystod streic y Glowyr yn yr 1980au pan ymunais i a fy mrodyr â Dad ar y llinell biced. Yr olaf o'r genhedlaeth i dderbyn grantiau prifysgol, mynychais Brifysgol Caerdydd lle graddiais gyda BSc mewn Economeg.

Cefais fy ethol i Dŷ’r Cyffredin yn 2001 cyn camu i lawr o wleidyddiaeth rheng flaen yn 2010 i fynd i Brifysgol Harvard lle deuthum yn Gymrawd yn y Ganolfan Datblygu Rhyngwladol yn Ysgol Lywodraethu John F. Kennedy.

Ond daeth gwleidyddiaeth â mi adref i Gymru ac yn 2016 deuthum yn Aelod o’r Senedd - gan wasanaethu pobl fy etholaeth gartref yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr unwaith eto. Rwyf bob amser wedi cael fy ngyrru gan bwysigrwydd tegwch a chyfiawnder ac rwyf wedi ymrwymo i wneud Cymru yn genedl gydradd a chyfartal."

Manylion Cyswllt - gwefan y Senedd

I'r brig


Sioned Williams

Sioned Williams MS

Rhanbarth: Gorllewin De Cymru

Portffolio: Addysg Ôl-16, Cyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb

Meddai Sioned: "Wedi fy magu yng nghymoedd Gwent, rwy’n byw gyda fy ngŵr Daniel a dau o blant yn eu harddegau yn Alltwen yn Nyffryn Abertawe yn Etholaeth Castell-nedd. Rwy'n Gynghorydd Cymunedol i Alltwen ac yn Gadeirydd Cyngor Cymuned Cilybebyll. Ar ôl gwasanaethu fel Cadeirydd Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe am bum mlynedd, rydw i bellach yn llywodraethwr yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur.

Mae cymaint o waith i'w wneud. Mae ein cymdeithas yn llawn anghydraddoldeb - yn union fel y gwelsom y tlotaf yn cario baich llymder, felly hefyd y byddant yn cael eu taro galetaf gan y dirwasgiad sydd eisoes arnom.

Fy mlaenoriaeth fydd mynd i’r afael â’r lefelau cywilyddus o dlodi ac esgeulustod yn ardal Castell-nedd, sy’n cynnwys mynd i’r afael â’r diffyg seilwaith trafnidiaeth a chysylltedd, tlodi digidol, a colli adnoddau cymdeithasol."

Manylion Cyswllt - gwefan y Senedd

I'r brig