Portffolio: Cyfiawnder a Materion Ewropeaidd
Ganed Adam Price yng Nghaerfyrddin i deulu glöwr a chafodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Aman ac yna ym Mhrifysgol Caerdydd lle graddiodd gyda BSc mewn Economeg. Aeth Adam ymlaen i fod yn Rheolwr Gyfarwyddwr Newidiem, cwmni ymgynghori polisi ac economeg yn y DU ac yn Gyfarwyddwr Gweithredol asiantaeth datblygu economaidd a newid diwylliannol Cymru, Menter a Busnes.
Cafodd ei ethol i Dŷ’r Cyffredin yn 2001 a sefydlodd ei hun yn gyflym fel ymgyrchydd, gan godi’r llen ar helynt Mittal yn 2002 lle bu i’r meistr dur Lakshmi Mittal, un o brif roddwyr y Blaid Lafur, lobïo Tony Blair i helpu i brynu diwydiant dur Rwmania.
Yn wrthwynebydd ffyrnig i Ryfel Irac a rôl Tony Blair yn y rhyfel, arweiniodd Adam ymgais, ochr yn ochr ag aelodau eraill o Blaid Cymru a’r SNP, i uchelgyhuddo Tony Blair. Yn ddiweddarach, cychwynnodd ddadl tair awr ar ymchwiliad i Ryfel Irac, a arweiniodd at sefydlu Ymchwiliad Chilcot. Yn 2009, penderfynodd ymddiswyddo fel AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Fulbright iddo i astudio ym Mhrifysgol Harvard lle astudiodd radd Meistr mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus, a daeth yn Gymrawd yn y Ganolfan Datblygu Rhyngwladol yn Ysgol Lywodraethu John F. Kennedy ym Mhrifysgol Harvard.
Etholwyd Adam yn Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn etholiad 2016, a bu’n arweinydd Plaid Cymru rhwng 2018 a 2023.