Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
Crynodeb
- Cynorthwyo sector y celfyddydau i adfer o’r pandemig drwy greu Cronfa Gweithwyr Llawrydd Cymru i gefnogi corfflu o 1,000 o weithwyr llawrydd i weithio yn y gymuned ac mewn ysgolion, wedi’u cefnogi gan incwm sylfaenol o £1,000 y mis am ddwy flynedd.
- Gwreiddio cymorth ar gyfer y celfyddydau ar draws pob rhan o’r llywodraeth, drwy Strategaeth newydd a chynhwysol y Celfyddydau a Diwylliant.
- Sefydlu Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol bwrpasol mewn lleoliad heblaw Caerdydd, gan arddangos y gorau o ddiwylliant gweledol cenedlaethol a rhyngwladol.
- Cefnogi cynigion i ddatblygu Castell a Pharc Cyfarthfa ym Merthyr Tudful yn ganolfan genedlaethol ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol.
- Sefydlu corff newydd i reoleiddio a gwella darlledu yng Nghymru fel rhan o system ddarlledu wedi’i datganoli’n llawn.
- Datblygu cais i gynnal Gemau’r Gymanwlad yng Nghymru yn 2030 neu 2034.