Mentrau eraill
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Byddwn ni’n cefnogi cynlluniau i wneud y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama yn sefydliad annibynnol, er mwyn cynyddu ei gyllid i lefelau Conservatoires y Deyrnas Unedig, ac i ehangu ei waith drwy ychwanegu dawns i’w ddarpariaeth bresennol. Yn y broses, bydd yn rhaid iddo adlewyrchu bywyd diwylliannol amrywiol a dwyieithog Cymru yn llawn.
Datblygiad Cerddoriaeth
Yn y gorffennol, mae sawl cynllun wedi bod i annog cyfranogiad pobl ifanc mewn cerddoriaeth. Maen nhw wedi tueddu i fod yn fentrau byrhoedlog sydd wedi gwywo’n ddim. Byddwn ni’n sicrhau bod cyfranogiad cerddorol o bob math yn cael ei wreiddio’n barhaol fel darpariaeth sydd ar gael i’n holl bobl ifanc ledled y wlad.
Gŵyl Cymru
Byddwn ni’n trefnu Gŵyl Cymru genedlaethol blwyddyn o hyd yn 2023.
Y Celfyddydau a’r Gymraeg
Byddwn ni’n hyrwyddo cynnydd mewn cynyrchiadau celfyddydol a gweithgarwch cyfrwng Cymraeg, a datblygiad llwybrau gyrfaol yn y celfyddydau yn y Gymraeg.
Cronfa Ffilm Cymru
Byddwn ni’n disodli cronfa aflwyddiannus a gwastraffus bresennol Llywodraeth Cymru, sef y Gronfa Fuddsoddi yn y Cyfryngau, gyda chronfa newydd i fuddsoddi mewn cynnwys ffilm o Gymru, yn seiliedig ar argymhellion Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd yn y maes hwn. Ein blaenoriaeth fydd cefnogi ein sector cynhenid i adrodd straeon Cymraeg gwreiddiol a manteisio ar bartneriaethau a chyfleoedd masnachol i werthu’r rhain i’r byd.
Eurovision
Byddwn ni’n paratoi cais Cymru fel cenedl yn ei hawl ei hun yn y gystadleuaeth adnabyddus fyd-eang, Eurovision.