Diwylliant – wrth galon y genedl

Mae diwylliant wrth galon ffordd o fyw ein cenedl. Mae’n ein diffinio ni. Mae’n hanfodol i bob cymuned. Dyna sy’n cysylltu cenedlaethau ac ardaloedd. Mae’n hanfodol i’n lles a’n cydlyniant fel cymdeithas. Diwylliant hefyd yw’r ffordd mae ein hunaniaethau amrywiol yn ymgysylltu â’i gilydd, a’r ffordd rydyn ni’n ymgysylltu â’r byd. Mae i ba raddau rydyn ni’n cydnabod hyn mewn ffordd ymarferol yn fesuriad o gymdeithas wâr ac aeddfed.

Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae pobl ar bob lefel wedi bod yn hynod ymwybodol o’r diffyg diwylliannol yn eu bywydau – boed hynny’n ddiffyg cae chwarae neu deras, y clwb neu neuadd gyngerdd, y theatr, orielau neu wyliau. Mae’r rhain yn brofiadau casgliadol, a hebddynt mae llawer o bobl wedi’u gadael yn teimlo unigedd, unigrwydd a gwacter.

Ar y llaw arall, mae hefyd wedi bod yn gyfnod lle mae llawer o bobl, wrth gwympo’n ôl ar eu hadnoddau eu hunain, neu drwy fanteisio ar y cynnydd yn allbwn ar-lein sefydliadau diwylliannol, wedi canfod diddordebau diwylliannol newydd.

Am y rhesymau hyn oll, byddwn ni’n rhoi’r celfyddydau, diwylliant a chwaraeon – pob un yn ffordd o fynegi ein hanes a’n traddodiadau cymdeithasol, ynghyd â’n dyheadau ar gyfer y dyfodol – wrth galon ein holl waith polisi cyhoeddus a gweithgarwch llywodraethu, mewn llywodraeth lleol a chanolog, mewn datblygiad economaidd, ym maes iechyd ac addysg, ac mewn perthynas â’n hamgylchedd, boed hynny’n drefol neu’n wledig. Bydd gofyn i bob adran o’r llywodraeth lunio ymateb cadarnhaol a pherthnasol.

Dyma’r hyn rydyn ni’n ei olygu o ran y strategaeth ddiwylliannol hollol gynhwysol rydyn ni’n bwriadu ei meithrin a’i chynnal, er mwyn ailsefydlu’r cysylltiadau amrywiol a’r profiadau a rennir sydd wedi cael eu peryglu gan y pandemig, ond sydd, gyda’i gilydd, yn creu cymdeithas.

Yn y broses hon, byddwn ni’n meithrin y creadigrwydd a’r arloesedd a fydd yn hanfodol i lwyddiant ein heconomi yn y dyfodol, gan ein galluogi ni i gyfoethogi’r ymdeimlad o le ym mhob cymuned, a chyflawni dyheadau penodol ac ymhlyg Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: darllen mwy