Gwella ein celfyddydau a’n diwylliant

Cryfhau’r lleol

Mae llymder gorfodol wedi cael effaith galed ar rôl awdurdodau lleol yn darparu’r celfyddydau a diwylliant. Ym mhob ardal, mae cynghorau wedi brwydo i gynnal darpariaeth. Mewn rhai ardaloedd, maen nhw wedi’u hatal yn llwyr. Hyd yn oed pan fydd adnoddau’n dynn, dylai fod gan gynghorau gyfrifoldeb ffurfiol i arwain yn y maes hwn.

Byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol:

  • Weithredu fel cynullydd a galluogwr i’r celfyddydau a diwylliant o fewn eu ffiniau.
  • Sefydlu consortiwm diwylliannol lleol i ddod â rhwydweithiau diwylliannol lleol ynghyd.
  • Rhoi sylw arbennig i:
    1. Annog cyfranogiad yn y celfyddydau gan blant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai o gefndiroedd sy’n ddifreintiedig yn economaidd-gymdeithasol.
    2. Darparu mwy o fynediad at y celfyddydau i bobl groenliw, pobl anabl, ynghyd â phobl eraill sydd wedi’u hymyleiddio.
    3. Hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yng ngweithgareddau’r celfyddydau, gan gynnwys gofodau Cymraeg newydd.
    4. Sicrhau bod hanes a threftadaeth Cymru’n ganolog i’r cwricwlwm ysgol, a’i fod yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru.

Fel rhan o wella gwaith y Cynghorau Partneriaeth yn yr awdurdodau lleol, byddwn ni’n gweithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, CADW, cynrychiolwyr y sector a rhanddeiliaid fel Cyngor Hil Cymru, i ddatblygu cydberthnasau gwell rhwng gweithgareddau diwylliannol lleol a’n sefydliadau cenedlaethol.

Ariannu ar sail angen

Mae cyflwr economaidd Cymru – lefelau uchel o dlodi ac amddifadedd cymdeithasol ei chymunedau niferus sy’n profi caledi – yn cyfiawnhau ariannu arbennig sy’n uwch ac yn mynd y tu hwnt i fformiwla Barnett. Dylai hyn hefyd fod yn berthnasol ar gyfer dosrannu cronfeydd loteri.

Byddwn ni’n pwyso am 1 y cant ychwanegol i gyfran Cymru o holl gronfeydd loteri’r Deyrnas Unedig i gydnabod yr anghenion ychwanegol hynny.

Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: darllen mwy