Iechyd a Gofal

Crynodeb

  • Adeiladu Gwasanaeth Iechyd a Gofal Gwladol lle ceir gofal personol am ddim pan fo’i angen.
  • Gwneud Cydraddoldeb Iechyd yn nod gan y Llywodraeth, gyda phwyslais ar fesurau ataliol sy’n gwella iechyd meddwl ac yn annog ymarfer corff.
  • Cyflwyno Deddf Aer Glân ac archwilio’r achos dros Dreth Bwyd Sothach.
  • Darparu 6,000 o weithwyr gofal iechyd ychwanegol i Gymru – 4,000 o nyrsys, 1,000 o feddygon, a 1,000 o weithwyr iechyd cysylltiedig.
  • Cynllunio ar gyfer adfer y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar ôl Covid-19 i: (i) Drin cleifion sydd â’r angen mwyaf, yn enwedig y rhai â Covid Hir; (ii) Cefnogi staff sydd â straen parhaus; a (iii) Paratoi ar gyfer pandemigau posib yn y dyfodol.
  • Darparu canolfannau diagnostig newydd ar gyfer canser a chyflyrau eraill i sicrhau triniaeth gynnar.

Yn dilyn y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni i gyd yn gwerthfawrogi ein gwasanaethau iechyd a gofal yn fwy nag erioed. Rydyn ni wedi gweld anhunanoldeb y staff, sydd wedi mynd yr ail filltir ddydd ar ôl dydd i’n cadw ni’n ddiogel, i achub bywydau, ac i ofalu am y bobl fwyaf agored i niwed.

Ond rydyn ni hefyd wedi gweld pa mor fregus ac anghynaladwy yw’r gwasanaethau hynny, y diffyg buddsoddiad a arweiniodd at orddibyniaeth ar ewyllys da ac ymrwymiad llwyr y gweithlu iechyd a gofal.

Mae’n hanfodol ein bod ni nawr yn rhyddhau’r pwysau, yn eu had-dalu am eu hymrwymiad pan oedden ni mewn angen, i roi’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i wneud yr hyn maen nhw wedi’u hyfforddi i’w wneud. Gofalu.

Mae’n rhaid i ni fanteisio ar y foment hon, nid yn unig i ailadeiladu ac i ddal i fyny gyda’r gwaith sydd wedi cronni, ond i greu cynaliadwyedd newydd, gwydnwch newydd, mewn Gwasanaeth Iechyd a Gofal Gwladol ar ei newydd wedd.


Darllen mwy