Deddf Aer Glân
Byddwn ni’n cyflwyno Deddf Aer Glân i sefydlu parthau aer glân mewn trefi a dinasoedd. Bydd hyn:
- Yn creu Parthau Aer Glân mewn ardaloedd â llygredd uchel, gyda gwaith wedi’i dargedu ar drafnidiaeth, diwydiant, a llosgi pren a thanwydd solet domestig, gyda Chaerdydd, Abertawe, Wrecsam, a Chasnewydd yn cael eu trin fel mater o frys.
- Yn rhoi hawl i gymunedau osod offer monitro llygredd y tu allan i ysgolion ac ysbytai.
- Yn galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno ffioedd llygredd.