Ein Daliadau
Dros degwch, dros uchelgais, dros Gymru: dyma ddaliadau Plaid Cymru.
Dilynwch y ddolen i weld ein maniffesto ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2024, neu gallwch bori archif o faniffestos y gorffennol.
Dyma brif bolisïau Plaid Cymru:
Ariannu teg i Gymru
- Sicrhau'r £4bn sy'n ddyledus i Gymru o HS2 fel y gallwn fuddsoddi yn ein trafnidiaeth gyhoeddus ein hunain ym mhob rhan o'r wlad a gwyrdroi'r toriadau i wasanaethau bws.
- Cael trefn ariannu teg i Gymru, yn seiliedig ar ein anghenion, fel y cawn ni y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym yn eu haeddu.
Chwarae teg i gleifion
- Ariannu teg gan San Steffan, i’n galluogi i fuddsoddi yng ngweithlu’r Gwasanaeth Iechyd a recriwtio 500 o feddygon teulu, wedi blynyddoedd o doriadau'r Ceidwadwyr a chamreolaeth Llafur yng Nghymru.
- Strategaeth Cancr newydd er mwyn sicrhau fod cancr yn cael ei adnabod a'i drin ynghynt, a rhoi diwedd ar y loteri cod post yng Nghymru ar gyfer triniaeth
Tegwch i deuluoedd
- Helpu 330,000 o deuluoedd Cymreig i ddelio gyda’r argyfwng costau byw trwy gynyddu Budd-dal Plant o £20 yr wythnos. Bydd hyn yn cymryd 60,000 o blant allan o dlodi ar draws Cymru.
- Cywiro annhegwch economaidd; cynyddu trethi ffawdelw ar gwmnïau a datganoli Ystâd y Goron er mwyn creu swyddi gwyrdd ac adeiladu ffyniant.