Cartrefi a Chymunedau
Crynodeb
Rhoi diwedd ar gysgu ar y strydoedd unwaith ac am byth, drwy bolisi ail-gartrefu cyflym.
Rhoi diwedd ar achosion o droi allan heb fai yn ystod canlyniadau economaidd Covid-19, a gweithredu system newydd o rent teg ar gyfer y dyfodol.
Creu 50,000 o gartrefi cyhoeddus yn ystod y pum mlynedd nesaf – 30,000 o dai cyngor neu dai cymdeithasol eraill, 5,000 o gartrefi rhent-gost ar rent canolradd, a 15,000 o gartrefi gwirioneddol fforddiadwy i’w prynu.
Torri biliau’r talwr Treth Gyngor cyfartalog drwy ddiwygio’r system Treth Gyngor yn llwyr.
Defnyddio grymoedd cynllunio a threthi i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi.
Penodi Rheolwyr i gydlynu’r gwaith o ddatblygu canol trefi.