Digartrefedd

Byddwn ni’n ymgorffori’r hawl i gartref mewn cyfraith. Byddwn ni’n gwneud Tai yn Gyntaf yn opsiwn diofyn i unrhyw un sydd ag anghenion cymhleth ac sy’n profi digartrefedd, ac yn penodi cyfarwyddwr cenedlaethol ar gyfer Tai yn Gyntaf ledled Cymru.

Yn ogystal:

  • Byddwn yn gofyn i awdurdodau lleol ddefnyddio model ailgartrefu cyflym, lle bydd gwarant y bydd unrhyw un sy’n profi digartrefedd yn cael eu hystafell eu hunain, ac nid dim ond gofod llawr, am 12 awr y dydd fel llety brys.
  • Byddwn ni’n diddymu Adran 74 Deddf Tai Cymru (2014) sy’n caniatáu i awdurdodau lleol gael gwared ar eu dyletswydd i roi cymorth i bobl y mae’n hysbys eu bod nhw’n ddigartref. Byddwn ni’n dod â diwedd ar weithredu amodau ‘Dim Hawl i Arian Cyhoeddus’ yng Nghymru, fel bod modd cael mynediad at wasanaethau digartrefedd a thai i bawb yng Nghymru sydd angen hynny.
  • Byddwn ni’n diddymu’r system angen blaenoriaethol
  • Byddwn ni’n diddymu’r dreth ystafell wely cyn gynted ag y mae’r grym ganddon ni i wneud hynny.

Cartrefi a Chymunedau: darllen mwy