Pris Tir a Thai

Mae’n rhaid i ni roi diwedd ar y broblem o dwf anghynaladwy mewn prisiau tai. Bydd gan ein Llywodraeth ni nod penodol o ddod â phrisiau cyfartalog tai yn ôl o fewn cyrraedd y dinesydd cyffredin. Dros amser, dylid rhoi’r gorau i ystyried tai fel nwyddau neu asedau, ond yn hytrach fel lle priodol i fyw, yn gartref. Er mwyn cyflawni hyn byddwn:

  • Yn cyflwyno cynigion am dreth dir ac eiddo newydd a thecach, fel ardoll cyfradd safonol ar berchnogion ac nid preswylwyr, yn seiliedig ar werthoedd cyfredol, i ddisodli cyfraddau busnes yn gyntaf, ac yna, treth gyngor.
  • Yn diwygio pryniannau gorfodol fel bod modd caffael tir ar werth y defnydd presennol.
  • Yn cyflwyno Deddf Hawliau Cymunedol newydd ac yn archwilio creu cronfa gyfoeth gymunedol i rymuso cymunedau i brynu asedau cymunedol, gan gynnwys tir, a gwasanaeth cenedlaethol newydd i’w cefnogi yn y broses.
  • Yn archwilio cynigion am Ddeddf Eiddo, i ddarparu sylfaen ddeddfwriaethol i’n hymrwymiad i sicrhau bod cartrefi’n wirioneddol fforddiadwy i bobl ar incwm lleol.
  • Yn cyflwyno moratoriwm ar werthu asedau cyhoeddus, gan gynnwys tir, i ddwylo preifat heb gyfamodau cadarn i sicrhau eu bod yn parhau i fod o fudd cymunedol a chyhoeddus.

Cartrefi a Chymunedau: darllen mwy