Safonau Amgylcheddol a Chynllunio
Bydd tai cymdeithasol yn cael eu hadeiladu i’r safon amgylcheddol uchaf posib, gyda’r defnydd mwyaf effeithlon posib o ynni, a’r allyriadau isaf posib. Mae’n rhaid i adeiladau a datblygiadau ehangach ystyried eu cyd-destun hanesyddol, diwylliannol ac ecolegol.
Er mwyn mynd i’r afael â sefyllfa warthus ystadau o ansawdd isel, byddwn ni:
- Yn deddfu i roi diwedd ar gartrefi prydles â ffioedd gwasanaeth annheg.
- Yn gosod amserlen a strategaeth ar gyfer tai yn y sector rhentu preifat i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.
- Yn gwella amddiffyniad y cwsmer ar gyfer ansawdd gwael mewn tai newydd.
- Yn sicrhau bod perfformiad blaenorol o ran cyflawni yn erbyn rhwymedigaethau cynllunio yn gallu dod yn ystyriaeth berthnasol mewn ceisiadau cynllunio yn y dyfodol, fel na fydd modd i ddatblygwyr ag enw drwg barhau i gael eu cymeradwyo ar gyfer tai.
- Yn ceisio grymoedd i gyflwyno treth ar hap ar enillion datblygwyr mawr, a defnyddio’r enillion i ddatrys problemau o ganlyniad i adeiladau o safon wael, sy’n aml yn gallu clymu pobl i fflatiau a thai o ansawdd isel heb ddim atebolrwydd, fel yn achos y sgandal cladin.