I gyflymu’r gwaith o ddarparu tai cymdeithasol, byddwn yn sefydlu Unnos – corff datblygu cenedlaethol newydd a hwylusydd tai cymdeithasol. Bydd Unnos yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai a bydd yn gyfrifol am y canlynol:
- Cydosod tir a nodi safleoedd – gweithredu fel brocer i ganfod, caffael a dad-risgio safleoedd ar gyfer tai cymdeithasol, ac arwain y defnydd o bwerau prynu gorfodol.
- Cynorthwyo gyda cheisiadau cynllunio a rheoli prosiectau, a helpu prosiectau i gydymffurfio â rheolau a safonau.
- Hwyluso mynediad at gyllid a helpu prosiectau i sicrhau buddsoddiad.
- Cysylltu prosiectau â chyflenwyr, contractwyr a darparwyr gwasanaethau lleol, a chefnogi prosesau caffael.
- Hybu arloesedd ym maes tai cymdeithasol, gan gynnwys o ran dulliau adeiladu a chaffael deunyddiau adeiladu o Gymru.