Tegwch mewn Cynllunio
Mae’r system gynllunio wedi hen ddyddio ac angen ei hail-wampio. Yn rhy aml o lawer, mae cymunedau ar drugaredd datblygwyr mawr sy’n codi tai drudfawr am elw yn hytrach na chodi’r tai sydd eu hangen i ateb y galw. Gwyddom fod galw enfawr am eiddo un a dwy ystafell wely yng Nghymru, yn ogystal â thai unllawr i boblogaeth sy’n heneiddio, ac eto, nid yw’r datblygwyr yn codi’r tai y mae ar y gymuned eu hangen.
Byddwn yn diwygio’r system gynllunio fel ei bod yn cyd-fynd ag anghenion a dyheadau lleol, yn hytrach nag adlewyrchu buddiannau datblygwyr.
Mae hyn yn golygu cadw gwybodaeth gyfoes am yr angen am dai a sicrhau bod datblygiadau’n adlewyrchu’r angen hwn. Byddai hyn yn cael ei gefnogi gan becynnau ariannu i helpu llywodraeth leol i orfodi penderfyniadau cynllunio yn gadarn, fel bod datblygwyr yn cadw at y cytundebau.
Fe wnawn yn siwr nad yw Cynlluniau Datblygu Lleol yn cael eu gosod ar awdurdodau cynllunio lleol heb eu cefnogaeth.