Y Gymraeg

Crynodeb

  • Cyflwyno Deddf Addysg Gymraeg i roi’r rhodd o ruglder yn y Gymraeg i bob plentyn.
  • Codi statws a dyrannu cyllid ychwanegol i Brosiect 2050 (miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050) a fydd, gyda mandad ‘mwy na miliwn o siaradwyr’ ac fel rhan ganolog o’r Llywodraeth, yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau polisi ar draws pob adran.
  • Gosod targed o 1,000 o ofodau Cymraeg newydd, gan gynnwys gofodau diwylliannol a gweithleoedd, i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.
  • Sefydlu ‘Menter Ddigidol Gymraeg’ newydd fel rhan o strategaeth ddigidol newydd ar gyfer yr iaith.
  • Ymestyn cylch gwaith Comisiynydd y Gymraeg a’i bwerau i weddill y sector preifat.
  • Dyblu’r cyllid ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Darllen mwy