Addysg cyfrwng Cymraeg
Rydyn ni’n ymrwymo i sicrhau bod addysg gynradd yng Nghymru’n dod yn wirioneddol ddwyieithog, fel bod pob plentyn yn cyrraedd 11 oed ac yn gallu deall a chyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Byddwn ni’n cyflwyno Deddf Addysg Gymraeg yn seiliedig ar adroddiad Gareth Pierce, Y Gymraeg mewn addysg: cryfhau drwy ddeddfu? er mwyn
- Sefydlu targedau statudol clir gyda chymhellion priodol er mwyn normaleiddio ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a chyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr.
- Sefydlu targedau cenedlaethol ar gyfer cynllunio’r gweithlu er mwyn galluogi ehangu addysg cyfrwng Cymraeg ar fyrder.
- Gweithredu’r ymrwymiad i un continwwm o ddysgu Cymraeg i bob disgybl.
- Gosod nod statudol hirdymor o addysg cyfrwng Cymraeg i bawb fel rhan o darged Cymraeg 2050.
Byddwn ni’n ystyried sefydlu’r hawl i gludiant am ddim i ysgolion Cymraeg.
Byddwn ni’n gwella addysgu Cyfnod Sylfaen a darpariaeth Gymraeg, gan ddefnyddio model trochi, fel bod modd i ddisgyblion siarad Cymraeg i safon dderbyniol erbyn iddyn nhw fod yn saith oed. Byddwn ni’n darparu cymorth fel bod athrawon o bob grŵp oedran yn gallu gwella eu sgiliau iaith yn y Gymraeg.
Byddwn ni’n gweithio gyda darparwyr gofal plant, fel y Mudiad Meithrin, i sicrhau bod gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael ac wedi’i normaleiddio ym mhob rhan o Gymru.
Bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru yn cynnwys un llwybr dysgu a chymhwyster Cymraeg i bawb.
Byddwn ni hefyd yn blaenoriaethu:
- Diogelu yn erbyn cau ysgolion Cymraeg oni bai bod y Comisiynydd y Gymraeg wedi ystyried effaith y cau ar y Gymraeg fel iaith gymunedol, a’i fod yn fodlon nad oes effaith ac y dylai’r broses fynd yn ei blaen.
- Gosod targedau ar gyfer cynyddu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg.
- Sefydlu nod statudol hirdymor o addysg cyfrwng Cymraeg i bawb fel rhan o darged 2050.
- Darparu targedau ar gyfer cynyddu nifer a chanran y pynciau a gaiff eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion sydd ar hyn o bryd yn addysgu drwy gyfrwng y Saesneg, fel yr argymhellwyd gan yr Athro Sioned Davies yn ei hadroddiad yn 2013, Un Iaith i Bawb.
- Hyfforddi athrawon cyfrwng Cymraeg; lleihau ffioedd a darparu cymhellion gwell ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon, gan gynnwys ystyried yr opsiwn o ymestyn y cwrs i ganiatáu i bob athro dan hyfforddiant ddod yn rhugl yn yr iaith.
- Blynyddoedd dilynol o Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer yr athrawon hynny sy’n dysgu Cymraeg.
- Creu cynllun i annog pobl i ddatblygu hyfedredd digonol er mwyn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Buddsoddi mewn rhaglen Cymraeg i Oedolion i hyfforddi mwy o athrawon sy’n siarad Cymraeg.
- Sefydlu cronfa newydd i ehangu mynediad at y Gymraeg i bob rhan o gymdeithas, gan gynnwys ariannu mentrau i ddarparu mynediad am ddim i ddigwyddiadau a’r hawl i ddysgu Cymraeg i grwpiau wedi’u hymyleiddio fel ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
- Canolfannau trochi ym mhob rhan o Gymru ar gyfer plant sy’n dod i’r wlad er mwyn dysgu Cymraeg, yn seiliedig ar fodel Gwynedd.
- Ehangu’r system Athrawon Bro.
- Creu rhaglen genedlaethol o ymwybyddiaeth iaith, gan gynnwys manteision addysg amlieithog.