
Cronfa Etholiad Cyffredinol
Nid oes unrhyw ffordd arall y gall Arweinydd Torïaidd yn Llundain ddal Swydd y Prif Weinidog heb Etholiad Cyffredinol a mandad gan y bobl.
Rydym yn mynd i fod yn cystadlu yn erbyn miliynau o bunnoedd y bydd yr undebau llafur yn ei roi i Lafur, a gydag arweinydd newydd yn ei le, bydd y Torïaid heb os yn gallu dibynnu ar eu bancwyr cyfoethog gyda’u bonysau sydd bellach yn ddiderfyn.
Bydd unrhyw arian y gallwch ei roi i gronfa etholiad cyffredinol y Blaid yn cael ei ddefnyddio i baratoi yr ymgyrch orau posib - a chaiff eich cyfraniad ei neilltuo i'r etholiad penodol hwn.
Os gallwch ein helpu, gofynnwn yn garedig i chi wneud.