Ein Gweledigaeth
Er mwyn edrych ymlaen, mae’n rhaid i ni edrych yn ôl. Mae’n rhaid i ni ddeall ein problemau er mwyn cael hyder y bydd y dyfodol yn wahanol. Mae’r rhaglen hon ar gyfer Llywodraeth Plaid Cymru wedi’i seilio ar hanes ein cenedl, ac wedi’i siapio gan brofiadau ein pobl.