Wynebu’r dyfodol gyda’n gilydd – adeiladu Cymru well
Nid dyma’r wlad ddylen ni fod. Nid dyma’r wlad allwn ni fod. Ac nid dyma’r wlad rydyn ni’n dymuno bod.
Mae Cymru ar groesffordd. Mae’r etholiad hwn yn edrych tua’r dyfodol. Rhaid i’r dyfodol fod yn wahanol i’r gorffennol, ac fe fydd yn wahanol, os dewiswn ni ein dyfodol ein hunain. Dyna’r cyfle hanesyddol sydd ganddon ni o’n blaenau yn yr etholiad hwn. Yn debyg i’n cyndeidiau ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gallwn ni benderfynu wynebu’r dyfodol gyda’n gilydd, ac adeiladu gwlad newydd. Yn yr ugeinfed ganrif, Prydain oedd hynny, ond bellach yn yr unfed ganrif ar hugain, Cymru newydd yw hi.
Mae gan Gymru botensial anhygoel fel cenedl. Dydy’r problemau rydyn ni wedi’u profi ers cenedlaethau ddim yn anochel. Gallwn ni ddatrys y problemau hyn, gyda’n gilydd. Ond y cam cyntaf yw ethol Llywodraeth newydd, sydd â’r uchelgais i adeiladu Cymru newydd, fydd yn well na’r un a fu.
Bydd Rhaglen Lywodraethu Plaid Cymru yn seiliedig ar gyflawni pum prif nod.
1. Dechrau da mewn bywyd i bob plentyn
- Prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd gan ddefnyddio’r cynnyrch gorau o Gymru.
- Buddsoddi mewn 4,500 o athrawon a staff cynorthwyol ychwanegol, lleihau maint dosbarthiadau, rhoi gwerth ar y proffesiwn addysgu.
- Gofal plant am ddim i bawb o 24 mis oed ymlaen.
2. Llwybr at lwyddiant i’r wlad gyfan
- Sbardun Economaidd Gwyrdd er mwyn helpu i greu 60,000 o swyddi.
- Gwarant o swydd neu hyfforddiant o safon uchel i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed.
- Benthyciadau di-log i gefnogi busnesau bach i adfer ac adfywio ar ôl Covid.
3. Chwarae teg i deuluoedd
- Torri biliau cyfartalog y Dreth Gyngor, gan helpu pob punt i fynd ymhellach.
- Taliad ychwanegol o £35 y plentyn bob wythnos i deuluoedd sy’n byw o dan y ffin tlodi.
- 50,000 o dai cymdeithasol a fforddiadwy, a rhenti teg ar gyfer y dyfodol.
4. Y gwasanaeth iechyd a gofal gwladol gorau
- Hyfforddi a recriwtio 1,000 o Feddygon newydd a 5,000 o Nyrsys a staff cysylltiedig newydd.
- Gofal personol am ddim pan fydd angen ar gyfer yr henoed, gan roi diwedd ar y rhaniad rhwng iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwarantu isafswm cyflog o £10 yr awr i weithwyr gofal.
5. Mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd
- Cyflwyno Cenhadaeth Cymru 2035 i ddatgarboneiddio ac i gyrraedd allyriadau sero-net.
- Sefydlu Ynni Cymru fel cwmni datblygu ynni gyda tharged o gynhyrchu 100 y cant o’i drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.
- Cyflwyno Deddf Natur gyda thargedau statudol i adfer bioamrywiaeth erbyn 2050.
Yr ymrwymiadau hyn yw sylfaen ein Rhaglen Lywodraethu ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Ond os ydyn ni am wireddu ein potensial fel cenedl, mae angen i Gymru fod â’r grym i wneud yr holl benderfyniadau mawr sy’n effeithio ar ein bywydau bob dydd.
Nid dim ond diwygio’r cyfansoddiad fydd annibyniaeth, dyna’r unig ffordd y byddwn ni’n creu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer ein gwlad yn y pen draw, gan sicrhau cyfiawnder cymdeithasol ac economaidd.
Dwi'n pleidleisio dros y Blaid
10,424 votesGyda channoedd o ymgeiswyr a chefnogwyr Plaid Cymru yn ymgyrchu ar hyd a lled y wlad, byddai'n help mawr i ni wybod eich bod yn pleidleisio drosom, gan ein galluogi i ganolbwyntio ein hymdrechion ar berswadio'r rhai sydd heb benderfynu sut i bleidleisio eto.
Os ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru eleni, rhowch wybod i ni.
Ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru?
Gan ateb yr holiadur yma, rydych yn cytuno gall Blaid Cymru recordio'ch barn gwleidyddol a'i ddefnyddio er mwyn ymgyrchu. Gallwch ddarganfod ein polisi preifatrwydd yma.