Trawsnewid Cymru – ein cenhadaeth genedlaethol

Nod Plaid Cymru yw i rhoi Cymru ar lwybr newydd. Bydd Llywodraeth Plaid Cymru’n cyflawni’r ymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu hon sydd wedi’i chostio’n llawn yn y tymor cyntaf, ond maen nhw hefyd yn ffurfio rhan o’n gweledigaeth hirdymor ar gyfer dyfodol Cymru, a Chymru wedi’i thrawsnewid. Byddwn ni’n llywodraethu ar gyfer heddiw ac yn paratoi ar gyfer yfory, i greu gwlad sydd wedi’i thrawsnewid erbyn troad y degawd hwn, wrth i ni fynd ati i adeiladu cenedl annibynnol newydd, gynaliadwy, gyfartal, a chyfiawn yn gymdeithasol Dyma’r amcanion sy’n sail i’n cenhadaeth genedlaethol.

  • Bydd economi Cymru dan berchnogaeth leol ac yn talu cyflogau uchel.
  • Bydd swyddi a buddsoddi’n cael eu rhannu’n deg ar draws y wlad gyfan.
  • Bydd yr economi’n fwy cytbwys ac amrywiol, a bydd ein harian cyhoeddus yn gryfach.
  • Bydd y doniau sydd ganddon ni yng Nghymru’n cael eu datblygu a’u cynnal.
  • Bydd ynni’r wlad yn hollol adnewyddadwy ac wedi’i berchnogi a’i gynhyrchu yn lleol.
  • Bydd Cymru wedi’i datgarboneiddio ac yn cynhyrchu dim allyriadau.
  • Bydd ein hamgylchedd naturiol a’n bioamrywiaeth yn ffynnu.
  • Bydd ein sector amaethyddol yn rhan allweddol o system fwyd gynyddol leol.
  • Bydd pobl yn byw bywydau hirach a mwy heini, mewn cymdeithas iachach sy’n atal salwch.
  • Bydd pobl hŷn yn cadw annibyniaeth ac urddas wrth iddyn nhw heneiddio, ac yn cael cymorth pan fydd ei angen arnynt.
  • Bydd ein dinasyddion ymhlith y rhai mwyaf dysgedig a medrus yn y byd.
  • Bydd ein cymdeithas yn amddiffyn menywod, plant a’r rhai sy’n agored i niwed.
  • Bydd gan bawb hawl i gartref.
  • Bydd grym ac atebolrwydd yn aros mor agos â phosib at y bobl, a bydd sefydliadau cenedlaethol ein gwlad yn atebol i’r bobl maen nhw’n eu gwasanaethu.
  • Ni fydd pleidlais neb yn cael ei gwastraffu, a bydd ein democratiaeth yn adlewyrchu pob llais ac yn cynrychioli poblogaeth amrywiol Cymru ar bob haen o’r llywodraeth.
  • Bydd dinasyddion Cymru’n wybodus ac wedi’u hymgysylltu, a byddan nhw’n cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ddal penderfynwyr i gyfrif.
  • Bydd y Gymraeg yn cael ei normaleiddio a’i defnyddio fel iaith fyw, iaith gwaith, a iaith gweinyddiaeth gyhoeddus a phreifat.
  • Bydd hiliaeth, agweddau misogynistaidd, a ffurfiau eraill ar wahaniaethu ac anoddefgarwch yn cael eu gwaredu.
  • Bydd ein dinasyddion yn rhannu dealltwriaeth gyffredin am hanes diwylliannol, treftadaeth ddiwylliannol, amrywiaeth ethnig, hunaniaeth, profiadau a safbwyntiau pobl Cymru, a bydd hunaniaeth genedlaethol Cymru’n cael ei chryfhau fel bond cynhwysol a blaengar er budd pawb.
  • Bydd gwladwriaeth Cymru’n ymgorffori hawliau sylfaenol ei dinasyddion mewn siarter ysgrifenedig o hawliau a chyfrifoldebau dinasyddion, yn seiliedig ar ddinasyddiaeth genedlaethol gyfartal sy’n croesawu goddefgarwch ac amrywiaeth.
  • Bydd cymunedau ym mhob rhan o Gymru’n gynaliadwy, wedi’u cysylltu, a bydd gan unigolion fynediad at gyfleustodau a gwasanaethau’n nes at adref.
  • Bydd cysylltiadau teithio rhwng y gogledd a’r de, a’r dwyrain a’r gorllewin, yn gwneud teithio yng Nghymru yn haws ac yn gyflymach.
  • Bydd band llydan cyflym iawn ar gael i bob eiddo a busnes yng Nghymru.
  • Bydd Cymru’n chwarae ei rhan fel cenedl yn ei rhinwedd ei hun ar lwyfan byd-eang, gan anelu am heddwch.
  • Bydd Cymru’n wynebu cyfrifoldebau ein gorffennol, a realiti ein presennol.

Ein Gweledigaeth: darllen mwy