Codi’r Genedl
Crynodeb
- Creu chwe rhanbarth economaidd strategol i ledaenu ffyniant yn gyfartal ar draws y wlad gyfan.
- Sefydlu Swyddfa benodedig ar gyfer Datblygiad a Buddsoddiad Rhanbarthol i arwain ar ddatblygiad rhanbarthol a datganoli llywodraeth ledled Cymru.
- Sefydlu Cymoedd, sef Awdurdod Datblygu’r Cymoedd a fydd â chylch gwaith o yrru’r cyfleoedd economaidd sy’n gysylltiedig â Metro’r Cymoedd.
- Cydgysylltu datblygiad economaidd, cynllunio iaith, trafnidiaeth, a buddsoddiad yn rhanbarth Arfor ar arfordir y gorllewin, fel bod gan bobl ifanc y rhanbarth fynediad at swyddi sgiliau uchel â chyflog da yn eu cymunedau lleol.
- Cynhyrchu cynlluniau datblygu cyffrous ar gyfer Clwyd, Powys, Bae Abertawe a’r de-ddwyrain.
- Cryfhau democratiaeth llawr gwlad gyda Chynghorau Cymuned a Thref diwygiedig.