Ein Cynllun ar gyfer Arfor

Mae strategaeth Arfor Plaid Cymru yn cynnwys creu tair eco-ganolfan newydd fel estyniadau o aneddiadau presennol – ar y Fenai rhwng Bangor a Chaernarfon, yn Aberystwyth, ac yng Nghaerfyrddin. Byddan nhw’n hybiau cyflogaeth, hamdden, diwylliannol ac adloniant bywiog, yn gwasanaethu’r ardaloedd gwledig o’u cwmpas ac wedi’u cysylltu gan gysylltiad rheilffordd ar hyd arfordir y gorllewin rhwng Bangor a Chaerfyrddin.

Bydd gan Asiantaeth Datblygu Arfor rymoedd yn y lleoliadau hyn o ran caffael tir, ynghyd â’r cyllid i ddarparu’r seilwaith angenrheidiol, tai, a chymhellion economaidd eraill. Bydd yr Asiantaeth yn gweithredu mewn strwythur cynllunio democrataidd lleol wedi’i osod gan yr awdurdodau lleol.

Bydd eco-ganolfannau Arfor yn ganolbwynt ar gyfer rhyngweithiadau cymdeithasol a gwaith gyda’r ardaloedd gwledig ehangach. Byddan nhw’n hybiau ar gyfer creu swyddi newydd o ansawdd uchel ym maes arloesedd a gwyddorau iechyd mewn cysylltiad â’u prifysgolion a’u hysbytai lleol, yn y diwydiannau amgylcheddol a chreadigol, ac mewn mentrau cymdeithasol. Gan gefnogi diwylliant Cymraeg bywiog, byddan nhw’n ffocws rhanbarthol ar gyfer profiad trefol ieuenctid sy’n hanfodol ar gyfer dyfodol y Gymraeg. Byddan nhw:

  1. Yn creu swyddi newydd ym maes adeiladu, cynnal a chadw, a rheoli tai cymdeithasol fforddiadwy, gyda llawer o gyfleoedd hyfforddi.
  2. Yn enghreifftiau carbon niwtral o ddatblygu cynaliadwy, gyda’u hanghenion ynni wedi’u cyflenwi gan ynni adnewyddadwy.
  3. Wedi’u cysylltu drwy reilffordd, gan gwblhau’r cysylltiadau rheilffordd coll rhwng Sir Gâr ac Aberystwyth, a Phwllheli a Bangor.

Yn ogystal, bydd Asiantaeth Datblygu Arfor:

  • Yn cydweithio gyda Phrifysgolion Bangor, Aberystwyth, a’r Drindod Dewi Sant i gynhyrchu mentrau cysylltiedig ar sail ymchwil.
  • Yn cydweithio gyda thri Ysbyty Cyffredinol Dosbarth y Rhanbarth i ddatblygu prosiectau Gwyddorau Bywyd a Gofal Iechyd perthnasol.
  • Yn arwain ar y defnydd o gaffael cyhoeddus fel offeryn datblygu economaidd.
  • Yn datblygu strategaeth sgiliau a marchnad lafur wedi’i chynllunio i annog preswylwyr Arfor, yn enwedig y rhai ifanc, i ystyried y rhanbarth fel endid sy’n darparu ystod eang o gyfleoedd gyrfaol blaengar.
  • Yn hyrwyddo cynlluniau ynni adnewyddadwy lleol y mae’r gymuned yn berchen arnynt.
  • Yn cefnogi siaradwyr Cymraeg i sefydlu a datblygu mentrau busnes, gan gynnwys mentrau cydweithredol a chymdeithasol, ac yn eu hannog i redeg y busnesau hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Yn cefnogi’r ymrwymiad cenedlaethol o gael ‘mwy na miliwn’ o siaradwyr, gan wneud y Gymraeg yn iaith gweinyddiaeth fewnol yn y sector cyhoeddus a sefydliadau sydd wedi’u hariannu’n gyhoeddus ar draws y rhanbarth, ac yn hyrwyddo gofodau preifat a gwirfoddol newydd lle mai’r Gymraeg yw’r norm.
  • Yn creu strategaethau penodol ar gyfer y sector, yn benodol ar gyfer bwyd-amaeth, lletygarwch, a thwristiaeth. Dylai’r strategaeth dwristiaeth gynnwys creu Sefydliad Bwyd ac Academi Dwristiaeth, yn gysylltiedig ag un o’r Prifysgolion, gyda gwesty lleol yn addysgu lletygarwch drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd Bwrdd Arfor, a fydd wedi’i leoli ym Machynlleth wrth ganol y rhanbarth, yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol y rhanbarth, y prifysgolion a’r sectorau amgylchedd, mentrau cymdeithasol a ffermio. Bydd yn gytbwys o ran rhywedd ac yn mynd ati i wella cynrychiolaeth grwpiau eraill sydd wedi’u tangynrychioli.

Coridor rheilffordd gorllewinol Arfor

Gan weithio mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru, un o brif amcanion Asiantaeth Datblygu Arfor fydd cwblhau’r cyswllt rheilffordd rhwng Bangor a Chaerfyrddin.

Y cam cyntaf fydd adfer y cyswllt rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Bydd gwasanaeth rheilffordd i deithwyr ar hyd y rhan fwyaf o arfordir y gorllewin yn darparu ystod eang o fanteision economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol, gan ddarparu cysylltedd hanfodol ar gyfer rhanbarth Arfor. Bydd yn cryfhau cynaliadwyedd hirdymor cymunedau, busnesau, a sefydliadau cyhoeddus, er enghraifft y prifysgolion yn Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth.

Codi’r Genedl: darllen mwy