Trawsnewid cynllunio economaidd a gofodol
Mae gan Blaid Cymru weledigaeth hollol trawsnewidiol ar gyfer datblygiad economaidd a buddsoddi Cymru, sy’n seiliedig ar adeiladu, cysylltu a grymuso’r wlad a’n holl gymunedau. Ein blaenoriaeth yw mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau rhwng rhannau mwy tlawd a chyfoethog y wlad.
Mae rhanbarthau cynllunio strategol presennol Cymru yn ymateb i flaenoriaethau San Steffan, gan gynnwys cronfeydd Bargen Ddinesig a Twf a Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Maen nhw’n diystyru tri chwarter Cymru o ran hyfywedd economaidd a diwylliannol, ac yn parhau i olygu bod ein dyfodol yn ddibynnol ar friwsion oddi ar fwrdd rhywun arall, yn hytrach na gwasanaethu fel cyfrwng i gysylltu ein cymunedau yn y gogledd a’r de, y dwyrain a’r gorllewin, a gwireddu potensial ein gwlad.
Ein gweledigaeth amgen yw cynllunio ar mwyn i Gymru gyfan ffynnu, gan ganolbwyntio ar y canlynol:
- Dosbarthu cyfoeth, grym, a buddsoddiad yn deg ar draws Cymru gyfan, drwy dargedu ymyrraeth i’r ardaloedd sydd â’r angen mwyaf.
- Gwella cysylltedd o’r gogledd i’r de, ynghyd â’r dwyrain i’r gorllewin.
- Gwneud Wrecsam yn brifddinas ariannol i Gymru, gan adeiladu ar ei rôl fel cartref Banc Datblygu Cymru. Byddwn ni’n gosod pencadlys Ffyniant Cymru, ein hasiantaeth datblygu economaidd newydd, yn Wrecsam, ynghyd â cheisio denu sefydliadau newydd eraill fel Banc Cymunedol.
- Datgloi potensial datblygu cynaliadwy ein cenedl amrywiol gyfan.
Nid yw’r blaenoriaethau hyn yn golygu y byddwn ni’n troi ein cefnau ar y cynnydd sydd wedi’i wneud gan brosiectau unigol a weithredir yn llwyddiannus gan awdurdodau lleol gyda Bargeinion Twf a Dinesig Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Serch hynny, byddwn ni’n eu cysoni gyda’r angen i ledaenu buddsoddiad a ffyniant yn decach ar draws Cymru gyfan.
Er mwyn hwyluso’r gwaith o weithredu ein gweledigaeth amgen, mae Plaid Cymru’n credu y dylai dyfodol llywodraethu Cymru barhau i gynnwys haenau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol wrth wneud penderfyniadau ac y dylid gweithredu ar y lefelau cywir a gydag atebolrwydd democrataidd clir i’r bobl. I’r perwyl hwn, byddwn ni’n diddymu pedwar rhanbarth cynllunio Llafur a’u Cyd-bwyllgorau Corfforaethol annemocrataidd, gyda chwe rhanbarth strategol i ledaenu ffyniant yn deg ar draws y wlad.
Byddwn ni’n creu Swyddfa benodedig ar gyfer Datblygiad a Buddsoddiad Rhanbarthol yn Adran y Prif Weinidog i arwain ar ddatblygiad rhanbarthol ar draws y llywodraeth.
Byddwn ni’n darparu cyllid a sefydliadau economaidd pwrpasol ar gyfer Cymoedd y de ac arfordir y gorllewin, rhanbarth rydyn ni’n alw’n Arfor. Y Cymoedd a rhanbarth Arfor fydd lleoliadau y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus newydd, a byddwn yn symud swyddi presennol sydd wedi’u lleoli yn y brifddinas ar hyn o bryd yno hefyd.
Yn ogystal, byddwn ni’n diddymu’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol diffygiol ac yn cyflwyno cynllun datblygu cenedlaethol diwygiedig yn seiliedig ar ein map cynllunio gofodol newydd. Yn ogystal â rhanbarthau Arfor a’r Cymoedd, mae rhanbarthau ar gyfer y gogledd-ddwyrain, y canolbarth, Bae Abertawe, a’r de-ddwyrain, sef Dinas-Ranbarth Caerdydd. Cyfrifoldeb Ffyniant Cymru fydd darparu ar gyfer y rhanbarthau hyn. Ni fydd dim rhan o Gymru’n cael ei gadael ar ôl.