Dafydd Llywelyn

Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

Etholwyd Dafydd Llywelyn yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu dros Blaid Cymru gyntaf yn 2016, ac fe'i ail-etholwyd yn CHTh Dyfed-Powys yn 2021 ac yn 2024. Mae ardal Dyfed-Powys yn cwmpasu dros hanner tirwedd Cymru, ac yn gwasanaethu trigolion Ceredigon, Powys, Sir Benfro, a Sir Gâr.

Mae Dafydd yn gyn-Brif Dadansoddydd Cudd-wybodaeth, a bu’n gweithio yn adran gudd-wybodaeth yr heddlu am flynyddoedd lawer cyn symud i Brifysgol Aberystwyth yn 2014 er mwyn darlithio mewn Troseddeg. Mae ei yrfa wedi rhoi cryn fewnwelediad iddo i faterion plismona craidd, yn ogystal â dealltwriaeth o’r hyn y mae’r cyhoedd eisiau o’r gwasanaeth.

Dafydd yw Arweinydd Portffolio Arweinyddiaeth yr Heddlu CCHTh, ac mae’n gobeithio y bydd ei ddiddordeb brwd mewn Arweinyddiaeth a Strategaeth Gorfforaethol yn ddylanwad cadarnhaol ar Heddlu Dyfed-Powys, y staff a’r gwasanaeth mae’n darparu.

Mae Dafydd yn siaradwr Cymraeg rhugl, yn ddyn teulu gyda 5 o blant, ac mae’n mwynhau pob math o chwaraeon, ond mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn dilyn tîm pêl droed Cymru adref a thramor.