Mae gan Blaid Cymru Gynghorwyr Sir, Tref a Chymuned ledled ein gwlad. Maent yn gwasanaethu pobl Cymru ar y lefel fwyaf lleol bosibl.

Yn dilyn etholiadau llywodraeth leol 2022, enillodd Plaid Cymru 202 sedd, sef yr ail fwyaf o unrhyw blaid wleidyddol yng Nghymru. Roedd hyn ymhlith etholiadau lleol mwyaf llwyddiannus Plaid Cymru erioed, wrth iddi ennill mwyafrif ar 4 cyngor. Mae Plaid Cymru bellach yn rheoli, neu â rôl arweiniol ar 8 o 22 awdurdod lleol yng Nghymru.