Cynhadledd Flynyddol 2024

Cynhelir Cynhadledd Flynyddol 2024 Plaid Cymru yn Stadiwm y Principality, Caerdydd ar ddyddiau Gwener a Sadwrn, 11-12 Hydref 2024.

Dolenni Defnyddiol

  - Amserlen: Gwener, 11 Hydref

  - Amserlen: Sadwrn, 12 Hydref

  - Cynigion i'r Gynhadledd a Gwelliannau

  - Cyfarfodydd Ymylol

  - Gwybodaeth ddefnyddiol a chwestiynau cyffredin

Mynychu

Caiff pob aelod o Blaid Cymru fynychu a phleidleisio yn y Gynhadledd (ddim yn aelod? Dim problem!). Mae'n costio £1 i gofrestru, sydd yn daladwy ar y drws. Does dim rhaid cofrestru o flaen llaw...

Meddwl dod?

...ond os ydych yn meddwl ymuno â ni yng Nghaerdydd, gadewch i ni wybod!


Digwyddiadau

Cinio'r Gynhadledd

Cynhelir y Cinio eleni yng Ngwesty'r Park Plaza, Caerdydd, ar nos Wener, 11 Hydref, gydag adloniant gan yr amryddawn Mared. Mae tocynnau'n £55 y pen i aelodau Plaid Cymru - ac ar gael yma.

Cwis y Gynhadledd

Ar Noswyl y Gynhadledd (nos Iau 10 Hydref) mae Etholaeth Gorllewin Caerdydd yn cynnal noson gymdeithasol a chwis yn y Victoria Park, Treganna.