Y pandemig blaenorol
Mae’r gair ‘argyfwng’ yn deillio o’r gair ‘cyfwng’ – lle daw cyfuniad o amgylchiadau at ei gilydd i greu gwasgfa. Ac mae Covid-19 yn sicr wedi amlygu’r argyfwng blaenorol sydd wedi bod yn gwasgu ar adeilwaith cymdeithas Cymru, a chyfleoedd bywyd ein pobl, am lawer yn rhy hir. Clefyd tlodi, cyflogau isel a thai o safon wael, pla anghydraddoldeb rhywedd a hil, dadfeiliad dinesig ein diffyg democrataidd. Mae’r ystadegau’n siarad drostyn nhw eu hunain.
- Tlodi plant – Mae 70,000 o blant mewn tlodi yng Nghymru nad ydyn nhw hyd yn oed yn cael prydau ysgol am ddim.
- Argyfwng tai – Mae 67,000 o deuluoedd ar restr yn aros am dŷ.
- Cyflogau tlodi – Mae dros hanner ein gweithwyr gofal yn cael eu talu’n is na’r Cyflog Byw Gwirioneddol.
- Disgwyliad oes – Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd marwolaethau anorfod ddwywaith mor debygol yn ardaloedd tlawd Cymru o gymharu ag ardaloedd mwy cyfoethog y wlad.
- Anghydraddoldeb hil – Rydych chi bum gwaith a hanner yn fwy tebygol o fynd i’r carchar os ydych chi’n ddu na phe baech chi’n wyn yn yr Unol Daleithiau; yng Nghymru, mae’r ffigwr hwn yn codi i chwech a hanner.
- Trais ac anghydraddoldeb ar sail rhywedd – Caiff menyw ei lladd gan ddyn bob tri diwrnod yn y Deyrnas Unedig.
- Amgylchedd – Mae llygredd aer yn achosi tua 2,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn ac mae’r targed allyriadau carbon Net Sero cyfredol erbyn 2050 yn annigonol i gwrdd â graddfa’r her sy’n ein wynebu.
- Diffyg gwybodaeth – Nid yw bron i 40% o bobl Cymru yn gwybod mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am Iechyd, wrth i negeseuon allweddol iechyd y cyhoedd gael eu drysu yn ystod y pandemig gan gyfryngau’r Deyrnas Unedig nad ydynt yn gwasanaethu anghenion Cymru.
- Diffyg democrataidd – Dydy Cymru erioed wedi ethol mwyafrif Torïaidd yn Aelodau Seneddol, ond rydyn ni wedi cael Llywodraethau Ceidwadol yn San Steffan am ddau draean o’r cyfnod ers yr Ail Ryfel Byd.