Ein gwerthoedd craidd – Cymru i bawb
O’r dechrau un, mae Plaid Cymru wedi cael ei gyrru nid gan y syniad o beth yw Cymru, ond beth allai fod. Er mwyn adeiladu cymuned genedlaethol sy’n seiliedig ar ddinasyddiaeth deg, parch at draddodiadau a diwylliannau gwahanol, a gwerth cyfartal unigolion, waeth beth yw eu hil, dewis iaith, cenedligrwydd, rhywedd, lliw, ffydd, rhywioldeb, oedran, gallu na chefndir cymdeithasol. Dyma yw ein gwerthoedd craidd.
Fydd dyfodol mwy disglair Cymru, o dan arweinyddiaeth ffres Llywodraeth Plaid Cymru, y byddwn ni’n ei gyflwyno yn y tudalennau hyn ddim ond yn bosib gyda’n gilydd.
Mae’r syniad o Gymru fel cymuned o gymunedau, wedi’u huno yn eu hamrywiaeth, wedi bod wrth galon cenhadaeth Plaid Cymru erioed. Pan fydd ein cenedl yn ymuno fel un – gogledd a de, dwyrain a gorllewin, dinasyddion hen a newydd – ac yn mentro gwireddu’r grym sydd ganddon ni – fydd dim byd yn sefyll yn ein ffordd.
Mae adeiladu Cenedl Gyfartal lle mae Pawb yn Gydradd – gwlad annibynnol sy’n edrych allan ar y byd ac yn gadael y byd i mewn – wrth wraidd ein rhaglen.
Mae cartref i bawb yn y Blaid, a bydd y Gymru y byddwn ni’n ei hadeiladu gyda’n gilydd yn Gymru i bawb.
Gadewch i ni wynebu’r dyfodol gyda’n gilydd.