Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Byddwn ni’n parhau i gefnogi’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddarparu addysg uwch a phellach drwy gyfrwng y Gymraeg, ac i academyddion gynnal ymchwil yn Gymraeg. Byddwn ni’n dyblu’r cyllid ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn ei alluogi i gyflawni’r canlynol:
- Datblygu’r Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau Cyfrwng Cymraeg.
- Recriwtio a hyfforddi gweithlu dwyieithog, ym maes addysgu ac yn fwy cyffredinol, er mwyn cryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
Yn ogystal, bydd darparu neuaddau preswyl cyfrwng Cymraeg newydd neu estynedig yn dod yn amod o gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru i addysg uwch.