Hawliau Tenantiaid

Byddwn ni’n cyflwyno Bil Rhent Teg i ddarparu tenantiaethau hyd amhenodol a rhoi diwedd ar droi allan heb fai. Bydd pob rhent yn gorfod cael ei hasesu’n deg, a bydd cyfyngiad ar gynnydd mewn rhent. Byddwn ni’n gwneud tenantiaethau yn drosglwyddadwy rhwng cenedlaethau, fel yr oedden nhw o dan Ddeddf Rhent i 1977.

Byddwn ni’n rhoi grym i awdurdodau lleol osod rheol Rhent Byw, a fydd yn rhoi cyfyngiad ar rent mewn parthau lle mae pwysau rhent, gyda’r uchafswm ar draean o incwm cyfartalog lleol. Yn y sector rhent cymdeithasol, byddwn ni hefyd yn defnyddio dull rhentu byw, sy’n cysylltu rhent gydag incwm lleol, gan roi diwedd ar y rhyddid presennol sydd gan gymdeithasau tai i gynyddu rhent yn uwch na chwyddiant.

Byddwn ni’n cyflwyno Cynllun Achub Morgeisi Brys, gan roi opsiwn i bobl ddod yn denantiaid yn hytrach na wynebu cael eu troi allan, gyda’r opsiwn o brynu’n ôl yn y dyfodol drwy strwythur perchnogaeth a rennir.

Byddwn ni’n rhoi mwy o ddisgresiwn i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, i osgoi troi allan pan fydd ôl-ddyledion wedi’u hachosi gan doriadau mewn budd-daliadau. Byddwn ni’n rhoi diwedd ar osod pobl o dan 18 oed mewn llety gwely a brecwast.

Byddwn ni’n gweithio gyda’r heddlu i sicrhau mai’r ymateb diofyn mewn sefyllfaoedd camdriniaeth ddomestig fyddai bod gan y dioddefwr hawl i aros yn eu llety oni bai bod problemau diogelwch sylweddol.

Byddwn ni’n cryfhau’r grymoedd i ymdrin â landlordiaid gwael nad ydynt yn bodloni safonau tai neu gyfrifoldebau cymdeithasol. Drwy Rhentu Doeth Cymru, byddan nhw’n destun proses fetio flynyddol, ac yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr os byddan nhw’n methu â chydymffurfio. Yna, bydd Awdurdodau Lleol yn cael cyfle i brynu’r eiddo hyn i’w hadnewyddu a’u rhentu.

Cartrefi a Chymunedau: darllen mwy