Ail gartrefi
Mae Plaid Cymru yn hapus bod gwaith wedi dechrau o'r diwedd ar y problem o ail gartrefi oherwydd ein gwaith efo'r Llywodraeth Gymraeg trwy's Cytundeb Cydweithio
Mae’r nifer cynyddol o ail gartrefi yng Nghymru, yn enwedig ar hyd arfordir y gorllewin, wedi dod yn broblem gynyddol, sydd wedi’i hamlygu mewn ffordd druenus yn ystod pandemig Covid-19.
Yng Ngwynedd, mae 40 y cant o’r cartrefi sy’n mynd ar y farchnad bob blwyddyn bellach yn cael eu prynu fel ail gartrefi.
Mae’r gorddefnydd o eiddo fel ail gartrefi yn gwthio pobl leol allan o’r farchnad eiddo, gan roi pwysau annerbyniol ar wasanaethau lleol yn ystod y tymor brig, a gan arwain at drefi a phentrefi diffaith a hanner gwag yn ystod y gaeaf.
Mae llawer o argymhellion wedi’u gwneud yn ddiweddar, ond nid oes fawr ddim camau penodol wedi’u cymryd gan Lywodraeth bresennol Cymru. Mae Plaid Cymru o’r farn mai swydd y llywodraeth yw gweithredu argymhellion a sicrhau newid. Fis Medi diwethaf, er nad oeddem mewn llywodraeth, cyhoeddodd Plaid Cymru gynllun trawsbynciol Ailadeiladu ein Cymunedau: cynllun gweithredu Plaid Cymru ar ail gartrefi y gellir ei weithredu ar draws pob maes o’r llywodraeth.
Bydd Llywodraeth Plaid Cymru’n rhoi’r cynllun hwn ar waith. Byddwn ni:
- Yn newid y deddfau cynllunio i ganiatáu i gynghorau osod cyfyngiad ar nifer yr ail gartrefi, gan wrthod caniatâd i newid annedd o fod yn brif breswylfa i fod yn ail breswylfa.
- Yn caniatáu i gynghorau godi premiwm treth gyngor o hyd at 200 y cant ar ail gartrefi, a chau’r bwlch yn y gyfraith sy’n caniatáu i berchnogion ail gartrefi gofrestru eu heiddo fel “busnes” er mwyn osgoi talu’r premiwm treth gyngor.
- Yn cyflwyno rheoliadau i dreblu’r ffi Treth Trafodiadau Tir ar brynu ail eiddo.
- Yn grymuso cynghorau i adeiladu tai gyda gofyniad amodau lleol sy’n ei gwneud yn haws dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, ac ailddiffinio’r term ‘cartref fforddiadwy’ (sydd ar hyn o bryd yn cynnwys eiddo sy’n werth dros £250,000).
- Yn ariannu cynllun peilot i ddod â nifer sylweddol o gartrefi gwyliau dan berchnogaeth gymunedol drwy ymyrraeth gyhoeddus yn y farchnad dai bresennol, fel bod modd dargyfeirio enillion a gynhyrchir at ddatblygiadau lleol fel darparu tai cymdeithasol.