Creu cartrefi fforddiadwy newydd
Byddwn ni’n lansio’r rhaglen adeiladu tai cyhoeddus fwyaf ers hanner can mlynedd.
Ein nod yw i dai a gaiff eu hadeiladu’n gyhoeddus ddod yn opsiwn prif ffrwd ar gyfer y rhai sydd ar incwm cyffredin – nid yn unig y rhai ar incwm isel.
Ein nod yw sicrhau bod pobl ifanc ym mhob rhan o Gymru yn gallu fforddio prynu eu cartref eu hunain unwaith eto. Bydd ein diffiniad o gartrefi fforddiadwy yn adlewyrchu’r rheol benthyca morgeisi, sef 4.5 gwaith incwm cyfartalog aelwydydd lleol.
Er mwyn cadw’r costau’n isel, byddwn ni’n datblygu model prydles gyhoeddus lle na fydd y tir y mae cartref prynu fforddiadwy wedi’i leoli yn gallu cael ei werthu, yn hytrach bydd yn cael ei brydlesu i berchennog y tŷ yn barhaus am ddim cost neu gost isel, gan dynnu elfen sylweddol o bris prynu’r eiddo.
Byddwn ni’n disodli system gymhleth cytundebau Adran 106 gydag un ardoll seilwaith cymunedol gyson, lle bydd awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i gronni arian cyhoeddus a phreifat ar gyfer darparu cynlluniau tai sylweddol a seilwaith lleol.
Bydd Arfor a Cymoedd, y ddwy asiantaeth ddatblygu ranbarthol yn archwilio defnyddio grymoedd Corfforaeth Datblygu Trefol Newydd i ddatblygu cymunedau newydd sylweddol yng nghefn gwlad y gogledd a’r gorllewin ac ym Mlaenau’r Cymoedd. Byddwn ni’n defnyddio ein buddsoddiad mewn coridorau rheilffyrdd newydd a hybiau trafnidiaeth fel llwyfan ar gyfer datblygiadau tai newydd.
Bydd Llywodraeth Plaid Cymru:
- Yn diwygio’r system gynllunio i atal creu adeiladau newydd o ansawdd gwael gan y sector preifat sy’n methu â darparu cartrefi fforddiadwy. Yn hytrach, byddwn ni’n disodli fframwaith diffygiol y Cynllun Datblygu Lleol gyda system gynllunio fwy rheoledig, a fydd yn creu cymunedau cymysg o dai cymdeithasol a phreifat, wedi’u cefnogi gan wasanaethau cyhoeddus a’r seilwaith angenrheidiol.
- Yn deddfu fel y bydd angen i ddatblygiadau tai gynnwys o leiaf 50 y cant o dai gwirioneddol fforddiadwy, wedi’u darparu mewn lleoliad cymunedol.
- Yn deddfu i ddarparu ystod eang o rymoedd tai i Lywodraeth Cymru, er mwyn ei galluogi i gaffael tir (ar sail orfodol os oes angen) a darparu tai, yn uniongyrchol ac ar y cyd ag Awdurdodau Lleol a Chymdeithasau Tai a’r sector preifat, er mwyn gallu gwneud darpariaeth dai ar sail gydlynol.
- Byddwn ni’n dychwelyd rôl ganolog awdurdodau lleol yn bodloni’r angen am dai yn lleol mewn ystod o ffyrdd, yn dibynnu ar amgylchiadau lleol. Bydd modd iddynt ddefnyddio endid newydd, Unnos – Tir a Thai Cymru, i adeiladu mwy o dai cymdeithasol. Yn ogystal, byddan nhw’n cael eu grymuso i allu defnyddio eiddo gwag, a phrynu cartrefi sector preifat yn ôl gan landlordiaid sy’n gadael y farchnad i ehangu darpariaeth tai cyngor a thai cymdeithasol eraill.
- Byddwn ni’n cefnogi ystod o fodelau arloesol ar gyfer datblygu tai fforddiadwy, gan gynnwys cydweithfeydd tai bychain a’r model bond elusennol, gan ddefnyddio arian trafodion ariannol fel y mae Llywodraeth yr Alban wedi bod yn arloesol yn ei wneud.