Chwe Mil yn Ychwanegol o Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol i Gymru

Bydd gan Lywodraeth Plaid Cymru gynllun pum mlynedd i recriwtio ac i addysgu 4,000 o nyrsys ychwanegol, 1,000 o feddygon, a 1,000 o weithwyr gofal iechyd cysylltiedig, fel ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol ac ati.

Bydd ein strategaethau ar gyfer y gweithlu yn edrych ar addysgu myfyrwyr gofal iechyd mewn ffordd sy’n darparu’r ymgynghorwyr a’r arbenigwyr fydd eu hangen arnon ni mewn ugain mlynedd. Bydd yr ymagwedd hon tuag at addysg o fudd i ddatblygiad gwasanaethau, ac yn denu’r myfyrwyr gorau a’r mwyaf disglair.

Byddwn ni’n cynnal sioeau teithiol ledled Cymru, a fydd yn gwasanaethu’r ddau ddiben o hyrwyddo bywydau mwy iach a hyrwyddo gyrfaoedd mewn gofal. Bydd hyn yn cynnwys mynd i ysgolion ac ymgysylltu â disgyblion.

Byddwn ni:

  • Yn gwella mynediad at ofal sylfaenol drwy archwilio cymhellion i Feddygon Teulu weithio mewn ardaloedd lle mae prinder. Byddwn ni’n creu mwy o swyddi cyflogedig meddygon teulu ac ymarferwyr nyrsio uwch mewn ardaloedd sy’n methu â denu gyda’r modelau meddyg teulu mwy traddodiadol.
  • Yn gwella ansawdd gofal drwy sicrhau bod gan staff iechyd a gofal cymdeithasol fynediad at Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus.
  • Yn sefydlu Strategaeth Cadw Nyrsys y GIG er mwyn atal y broblem niweidiol a drud bod staff nyrsio’n gadael.
  • Yn gwella gallu pobl, gan gynnwys grwpiau sy’n agored i niwed fel pobl â dementia a phlant ifanc, i gael mynediad at ofal yn Gymraeg. Byddwn ni’n cyflawni hyn drwy gynyddu nifer y gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol sy’n siarad Cymraeg, ac yn darparu cymorth ychwanegol i’r rhai sydd eisoes yn ein gweithlu er mwyn galluogi’r defnydd o’r Gymraeg yn broffesiynol.

Iechyd a Gofal: darllen mwy