Iechyd Meddwl
Mae iechyd meddwl gwael yn gallu effeithio ar oddeutu chwarter y boblogaeth dros unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis. Serch hynny, dim ond 11 y cant o gyllideb y GIG sy’n cael ei gwario ar wasanaethau iechyd meddwl. Dim ond un ymhob tri pherson â phroblemau iechyd meddwl sy’n cael triniaeth – a hyd yn oed ar gyfer y lleiafrif ffodus hwn, mae rhestrau aros hir. Rydyn ni’n ymrwymo i gynyddu’r adnoddau sydd wedi’u dyrannu i iechyd meddwl ac emosiynol bob blwyddyn dros y pum mlynedd nesaf.
Byddwn ni’n sefydlu rhwydwaith o Ganolfannau Lles Ieuenctid ar gyfer cymorth iechyd meddwl a chorfforol i bobl ifanc nad ydyn nhw’n ddigon sâl i fod angen triniaeth seiciatryddol uwch, ond y mae angen cymorth arnyn nhw. Byddwn ni’n gosod y Canolfannau hyn mewn trefi ledled Cymru sydd â chysylltiadau trafnidiaeth da, gyda’r nod o wneud y gwasanaeth mor hygyrch â phosib. Yn ogystal, byddwn ni:
- Yn ehangu’r cymorth a gynigir i blant a phobl ifanc mewn gofal i 25 oed.
- Yn darparu Therapi Ymddygiad Gwybyddol a therapïau siarad eraill yn ehangach.
- Yn cynnwys adsefydlu a thrin y rhai sydd ag anhwylderau bwyta yn ein darpariaeth iechyd meddwl.
- Yn sicrhau bod iechyd meddwl ac emosiynol yn cael ei blethu i graidd ymarfer iechyd, er mwyn helpu i gyfyngu ar y nifer o bobl sy’n mynd i’r ysbyty.
Mae’n rhaid hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol fel rhan hanfodol o iechyd y cyhoedd. Byddwn:
- Yn hyrwyddo gwydnwch emosiynol a iechyd meddwl da mewn ysgolion a darparwyr addysg ôl-16 a chanolfannau ieuenctid.
- Yn buddsoddi mewn nyrsys ysgolion a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed.
- Yn sicrhau bod cwnsela ar gael mewn gofal sylfaenol, a bod gan Feddygon Teulu fynediad at adnoddau lleol er mwyn cyfeirio pobl yn briodol.
- Yn archwilio mynediad at wasanaethau iechyd meddwl fel rhan o wasanaethau iechyd galwedigaethol, ac yn chwilio am ffyrdd o wneud y cymorth hwn ar gael i bob cyflogwr.
- Yn cynyddu addysg broffesiynol mewn Therapi Ymddygiad Gwybyddol a therapïau siarad eraill i gynyddu argaeledd y gwasanaeth hwn.
- Yn chwilio am bob cyfle i annog buddsoddiad cymunedol mewn cyfleusterau chwaraeon y tu hwnt i gyllid gan y Llywodraeth.