Adfer ar ôl COVID-19

Ymhlith y dioddef a’r aflonyddwch a ddigwyddodd i’n bywydau yn sgil Covid-19, mae’r anawsterau y mae’r bobl yn ein gwasanaethau gofal wedi’u hwynebu a’u cryfder wedi bod yn syfrdanol. Mewn rôl sydd eisoes yn gofyn llawer, mae ein staff wedi mynd ymhellach nag erioed o’r blaen, gan beryglu eu bywydau i ofalu am y rhai mewn angen. Mae angen i ni ddeall graddfa’r trawma a’r blinder mae ein staff yn ei wynebu, a chynllunio ein gwasanaethau yn ystod y blynyddoedd nesaf mewn modd priodol.

Er bod natur y pandemig hwn yn wirioneddol anrhagweladwy yn y camau cynnar, mae’n amlwg y gellid bod wedi paratoi cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol yn well. Mae’n rhaid ni beidio â bod ofn dysgu gwersi gan y pandemig hwn, fel bod y genhedlaeth nesaf mewn sefyllfa well i wynebu unrhyw anawsterau tebyg.

Tarfwyd ar wasanaethau gofal iechyd rheolaidd wrth i nifer fawr o staff gael eu symud i gefnogi gofal dwys a chartrefi gofal, ac yna sicrhau bod y brechiad yn cael ei gyflwyno’n llyfn. Yn anffodus, bydd rhestrau aros ac angen heb ei fodloni yn cronni ar raddfa nad ydyn ni wedi’i gweld ers degawd, a bydd angen i ni fel cenedl gynllunio ar gyfer hyn.

Bydd Llywodraeth Plaid Cymru:

  • Yn sicrhau ein bod yn barod ar gyfer pandemig drwy fod â phentyrrau cyfarpar diogelu personol priodol a threfniadau cyrchu, ynghyd â phrotocolau cyfathrebu a mesurau eraill yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
  • Yn cynyddu nifer y Nyrsys Atal a Rheoli Heintiau arbenigol, ac yn sicrhau bod y cyngor a’r cymorth hwn yn ehangu i gynnwys cartrefi gofal a gwasanaethau gofal cymunedol.
  • Yn sicrhau bod gan staff iechyd a gofal cymdeithasol fynediad at gwnsela a gwasanaethau cymorth eraill sydd eu hangen arnynt.
  • Yn cynllunio ein hadferiad o wasanaethau gofal ‘arferol’ mewn modd synhwyrol a chynaliadwy.
  • Yn sicrhau bod gan GIG Cymru yr adnoddau a’r craffu effeithiol sydd ei angen arno er mwyn sicrhau rhaglenni effeithiol ar gyfer adrodd ystadegol, brechu, a phrofi ac olrhain yn y dyfodol.
  • Yn cynnal ymchwiliad penodol i Gymru i sicrhau ein bod yn dysgu gwersi o ymateb Cymru i’r pandemig.

Iechyd a Gofal: darllen mwy