Amgueddfeydd, Orielau a Llyfrgelloedd

Y Rhwydwaith Amgueddfeydd Cenedlaethol

Gall Cymru fod yn falch o’i rhwydwaith o safleoedd yr Amgueddfa Genedlaethol ledled y wlad. Rydyn ni hefyd yn cydnabod llwyddiant y polisi mynediad am ddim i’r amgueddfeydd hynny, a byddwn ni’n ei gynnal. Ar yr un pryd, byddwn ni’n sicrhau uniondeb ein holl amgueddfeydd cenedlaethol, ynghyd â’u hyfywedd.

Byddwn ni hefyd yn cefnogi cynlluniau gwella parhaus ar draws y rhwydwaith hwnnw, yn dilyn llwyddiant y gwaith o ailddatblygu’r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan.

Mentrau Newydd

Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol

Byddwn ni’n gwireddu dyheadau hirsefydlog i greu Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol bwrpasol, a fydd yn cynrychioli diwylliant gweledol Cymru, o ran creadigrwydd a chasgliadau, ac yn arddangos y gorau o ddiwylliant gweledol cenedlaethol a rhyngwladol. Yn ein blwyddyn gyntaf yn y llywodraeth, byddwn ni’n nodi lleoliad heblaw Caerdydd ar gyfer yr Oriel.

Byddwn ni’n parhau i fuddsoddi yn y deg canolfan ledled Cymru sydd eisoes yn arddangos diwylliant gweledol cyfoes ac ychwanegu un arall ar gyfer y cymoedd sydd wedi’u lleoli yn y Rhondda.

Castell a Pharc Cyfarthfa

Byddwn ni’n cefnogi cynigion i ddatblygu Castell a Pharc Cyfarthfa ym Merthyr Tudful yn ganolfan genedlaethol ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol. Bydd hyn yn ategu ein cynigion i greu Awdurdod Datblygu’r Cymoedd.

Llyfrgell Ddigidol Genedlaethol

Byddwn ni’n parhau â’n cefnogaeth i greu a datblygu Llyfrgell Ddigidol Genedlaethol. Bydd hyn yn rhoi hawl i unrhyw ddinesydd yng Nghymru lawrlwytho copi electronig o unrhyw lyfr mewn casgliad cyhoeddus cenedlaethol neu leol, gan gynnwys y rhai sydd mewn hawlfraint, yn gyfnewid am ffi a delir i’r cyhoeddwr a’r awdur, yn seiliedig ar sawl tro caiff y fersiwn ddigidol ei darllen. Bydd system debyg yn berthnasol i gerddoriaeth a ffilm.

Byddwn yn gofalu wrth lunio’r cynllun hwn nad yw’n tanseilio’r fasnach lyfrau a recordiau gonfensiynol.

Archif Genedlaethol

Cymru yw’r unig weinyddiaeth ddatganoledig nad oes ganddi archif genedlaethol bwrpasol. Byddwn ni’n ystyried yr opsiynau sydd wedi’u nodi yn yr Adroddiad Dichonoldeb i sefydlu Archif Genedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2020, ac yn gweithredu cynllun datblygu.

Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: darllen mwy