Adferiad diwylliannol

Byddwn ni’n sicrhau bod proses yr adferiad diwylliannol yn dilyn difrod Covid yn ystyried ei heffeithiau ar ein hartistiaid unigol a’n gweithwyr llawrydd, ynghyd â sefydliadau diwylliannol allweddol y genedl.

Artistiaid unigol a gweithwyr llawrydd

Mae artistiaid unigol a gweithwyr llawrydd yn gydran hollbwysig o’r sector diwylliannol – awduron, artistiaid, cerddorion, cynllunwyr setiau, a thechnegwyr sy’n gweithio mewn theatrau, mewn lleoliadau gwyliau, neu i gwmnïau teithio. Yn aml, mae’r bobl hyn yn gwneud cyfraniad allweddol i weithgarwch diwylliannol ar lefel y gymuned. Ond boed nhw’n gweithio ar eu pennau eu hunain neu i gwmnïau a sefydliadau, mewn llawer o achosion nhw, fel unigolion, sydd wedi dwyn y baich yn ystod y flwyddyn hon lle bu’n rhaid cau popeth.

Bydd adfywio gwaith y prif sefydliadau celfyddydol ynddo’i hun yn cynorthwyo gyda’r gwaith o adfywio’r corfflu o weithwyr llawrydd, ond mae’n rhaid i ni hefyd gefnogi gweithwyr llawrydd yn eu cyfraniad hanfodol ar lefel gymunedol ac mewn ysgolion – yn mynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl ac yn gwella bywydau a sgiliau ein pobl ifanc.

Byddwn ni’n creu Cronfa Gweithwyr Llawrydd Cymru, sef incwm sylfaenol diwylliannol, i gynorthwyo 1,000 o weithwyr llawrydd i weithio yn y gymuned, gan gynnig incwm o £1,000 y mis iddynt am ddwy flynedd.

Sefydliadau diwylliannol

Bydd ein sefydliadau diwylliannol cenedlaethol yn hanfodol er mwyn darparu’r Strategaeth Ddiwylliannol newydd. Bydd angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru arnynt am gyfnod parhaus er mwyn adfer o effeithiau ariannol y pandemig.

Mae’r pandemig wedi effeithio ar y Theatr Genedlaethol, National Theatre Wales, y Llyfrgell Genedlaethol, yr Amgueddfa Genedlaethol, Llenyddiaeth Cymru, y Cwmni Dawns Cenedlaethol, y Cyngor Llyfrau, Canolfan y Mileniwm, Opera Cenedlaethol Cymru, Ffilm Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac Urdd Gobaith Cymru.

Mae’r rhain yn sefydliadau allweddol i fywyd diwylliannol ein cenedl. Byddwn ni’n diogelu eu cyfraniad gwerthfawr, eu hannibyniaeth, a’u hyfywedd ariannol.

Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda nhw i sicrhau eu bod nhw’n cynrychioli amrywiaeth Cymru. Mae’n rhaid i’n hanes, ein treftadaeth a’n diwylliant gynrychioli a bod yn agored i bawb sy’n byw yng Nghymru. Byddwn ni hefyd yn ceisio ehangu eu rôl yn hyrwyddo diwylliant Cymru i gynulleidfaoedd rhyngwladol, gartref a thramor.

Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: darllen mwy