Delyth Jewell
Ymgeisydd etholaeth Caerffili a rhanbarth Dwyrain De Cymru (rhif 1)
Soniwch amdanoch eich hun
Cefais fy ngeni yn Ysbyty’r Glowyr yng Nghaerffili, tyfu i fyny yn Ystrad Mynach a mynd i’r ysgol ym Margoed. Rwy’n hynod falch o ddod o’r ardal hon, a bu’n anrhydedd cynrychioli fy rhanbarth genedigol yn y Senedd. Ar ôl graddio o Rydychen, gweithiais fel ymchwilydd ac ysgrifennwr areithiau yn San Steffan, lle cefais wobr 'Ymchwilydd y Flwyddyn’ yn 2014 am fy ngwaith a wnaeth helpu i gyflwyno deddfau newydd ar stelcian a rheoli trwy orfodaeth. Symudais yn ôl i Gymru yn 2015 a gweithio i Gyngor Ar Bopeth, lle gwelais drosof fy hun yr effaith drychinebus mae polisïau creulon fel llymder yn gael ar fywydau pobl. Fe daniodd awch ynof i frwydro i newid hyn a phethau tebyg er mwyn helpu i wella bywydau pobl sy’n byw yn ein cymunedau.
Yn eich barn chi, beth yw'r peth pwysicaf y dylai'r Senedd wneud dros y pum mlynedd nesaf?
Taclo’r tlodi sy’n bla ar fywydau gormod o bobl. Mae’n warthus fod traean o blant Cymru yn byw mewn tlodi - ac nid pob un ohonyn nhw sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim. Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru ymrwymo i bolisïau fydd yn dileu tlodi plant a gwella’r cyfleoedd mewn bywyd i’n hadnodd mwyaf gwerthfawr - ein pobl ifanc.
Beth wnewch chi dros Gaerffili / Dwyrain De Cymru petaech yn cael eich ethol?
Os caf f’ethol i ddychwelyd i’r Senedd, byddaf yn parhau i hyrwyddo anghenion ein cymunedau, gan gynnwys brwydro am fuddsoddi yn nhrefi ein cymoedd sydd wedi eu hesgeuluso cyhyd, a cheisio cyfleoedd i bobl ifanc gael llais mewn gwneud penderfyniadau (eu dyfodol hwy yw e, wedi’r cyfan), a sicrhau mwy o adnoddau i ymdrin ag anghenion iechyd a gofal ein pobl. Rwyf eisiau gweld mwy o gefnogaeth cwnsela i blant sydd wedi gorfod ymdopi â straen aruthrol yn ystod y cyfnod clo, ac i ganolfannau iechyd meddwl gael eu gosod yng nghanol pob tref.