Peredur Owen Griffiths

Peredur Owen Griffiths

Gwefan Facebook Twitter Instagram Threads E-bost Gwefan y Senedd

Rhanbarth: Dwyrain De Cymru

Portffolio: Cyllid a Llywodraeth Leol

Yn fab i weinidog, roedd Peredur eisoes wedi byw mewn sawl rhan wahanol o Gymru cyn iddo fynd i ysgol uwchradd Glan Clwyd yn Llanelwy, gan gynnwys Pumsaint yn Sir Gaerfyrddin, Moelfre yn Ynys Môn, Licswm yn Sir y Fflint. Mae gan Peredur Radd Meistr mewn Peirianneg Systemau Rheoli o Brifysgol Sheffield, ac mae bellach yn byw yng Nghaerffili.

Fel myfyriwr yn Sheffield, cymerodd Peredur swydd ym maes bancio. Ar ôl cwblhau ei radd, aeth Peredur ar drywydd cyflym i fod yn Rheolwr Banc i Santander, a llwyddodd i symud yn ôl i Gymru i gwblhau ei hyfforddiant. Tra gyda Santander, bu Peredur yn gweithio mewn canghennau ledled de Cymru, gan gynnwys Casnewydd, Mynwy, Caerffili, Merthyr Tudful, y Coed Duon, Cwmbrân, y Barri, Tonypandy, a Chaerdydd. Ar ôl Santander, daeth Cymdeithas Adeiladu Principality, lle bu Peredur yn gweithio fel Rheolwr Datblygu Busnes ar gyfer cangen morgeisi preswyl y busnes. Ar ôl 13 mlynedd yn y sector ariannol, ymunodd Peredur â Cymorth Cristnogol fel Cydgysylltydd Rhanbarthol De Cymru a Swyddog Etifeddiaeth Cymru gyfan. Yn ystod y cyfnod hwn, ymunodd â Bwrdd Cyfarwyddwyr Alltudion ar Waith, elusen sy'n gweithio i leoli ffoaduriaid. Ei gam nesaf oedd ymuno â Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, lle bu'n gweithio gyda nifer o grwpiau ffydd ledled Cymru.

Mae Peredur wedi bod yn Gynghorydd Cymunedol ar gyfer Trecenydd yng Nghaerffili ers 2017 ac wedi gwasanaethu am ddwy flynedd fel Cadeirydd Cyngor Cymunedol Penyrheol, Trecenydd ac Energlyn. Cyn hynny, bu'n Gadeirydd Etholaeth Caerffili Plaid Cymru. Yn ymgyrchydd am gyfnod hir dros Plaid Cymru, etholwyd Peredur i'r Senedd y tro cyntaf iddo sefyll etholiad. Mae’n gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn y senedd ac yn gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddefnyddio Sylweddau a Dibyniaeth.