Twristiaeth

Mae Plaid Cymru’n cydnabod pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth ledled Cymru fel cyflogwr ac o ran denu buddsoddiad i’r wlad. Byddwn ni’n annog y math o fentrau twristiaeth sy’n darparu’r budd gorau i gymunedau lleol, yn hytrach na’r math o dwristiaeth eithafol sy’n ystyried Cymru fel adnodd i gael ei ecsbloetio gan fuddiannau allanol. Gan gadw hyn mewn cof, byddwn ni’n archwilio ffyrdd o gynyddu perchnogaeth a rheolaeth leol o’r diwydiant.

Rydyn ni am hyrwyddo Cymru fel lleoliad twristiaeth gynaliadwy o ansawdd da, sydd â gweithgareddau a phrofiadau sy’n seiliedig ar ein hadnoddau naturiol, ein cynnyrch, ein harfordir a’n tirlun unigryw, a’n hiaith, ein diwylliant a’n treftadaeth.

Twristiaeth dreftadol yw’r ffurf fwyaf poblogaidd a thraddodiadol o dwristiaeth yng Nghymru, lle caiff twristiaid brofi’r hanes drwy amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth. Rydyn ni’n cefnogi symudiad tuag at dwristiaeth ddiwylliannol sy’n gallu cyfrannu’n sylweddol at statws y Gymraeg fel iaith fyw. Mae twristiaeth ddiwylliannol hefyd yn hyrwyddo diwylliant amrywiol Cymru i’r byd. Mae’r symudiad hwn wedi bod yn boblogaidd ac yn llwyddiannus yn Iwerddon, lle mae twristiaeth wedi canolbwyntio ar fwyd a gwyliau cerddoriaeth a llenyddol.

Enghraifft dda o fenter gymunedol o’r fath yn arwain y ffordd ym maes twristiaeth ddiwylliannol yw Llety Arall yng Nghaernarfon. Byddwn ni’n darparu grantiau ar gyfer mentrau tebyg ledled Cymru.

Byddwn ni’n adolygu rôl Croeso Cymru er mwyn iddo fod mewn sefyllfa well i ddenu twristiaid i Gymru. Byddwn ni’n parhau i ddod â mwy o bobl i Gymru ac yn gwella’r profiad i dwristiaid drwy ganolbwyntio ar gyd-wasanaethau, fel bod twristiaid yn gallu disgwyl aros yn agos at ddigwyddiadau, cael mynediad at y wybodaeth ddiweddaraf, a dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Byddwn ni’n sefydlu Tasglu’r Diwydiant i ddatblygu strategaeth ar gyfer dyfodol y sector twristiaeth. Bydd yn ystyried manteision y canlynol:

  • Cyflwyno gostyngiadau wedi’u targedu mewn cyfraddau busnes i helpu’r sector busnes drwy’r adferiad, a lobïo Llywodraeth y Deyrnas Unedig i leihau TAW ar gyfer busnesau twristiaeth.
  • Cefnogi’r gwaith o greu dewisiadau amgen i lwyfannau’r sector preifat fel Uber ac Airbnb dan berchnogaeth leol a pherchnogaeth y cyhoedd.
  • Creu fersiwn Cymru o system Parador sydd dan berchnogaeth y wladwriaeth yn Sbaen, lle mae modd adfer adeiladau treftadaeth (er enghraifft capeli wedi’u hadnewyddu) fel llety gwesty.

Byddwn ni’n cefnogi cais Llechi Cymru am Statws Treftadaeth y Byd, ac yn parhau i’w weithredu waeth beth fydd y canlyniad ym mis Gorffennaf.

Byddwn yn gweithio gyda stêm treftadaeth i ddiogelu dyfodol y sector ac i ddatblygu tanwydd amgen yn y tymor hir.

Amaeth, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: darllen mwy