Grymuso Cymunedau Cefn Gwlad

Byddwn ni’n ailosod y gydberthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r diwydiant amaethyddiaeth. Bydd Senedd Wledig ymgynghorol, yn debyg yn ei ffurf i Gynulliad Dinasyddion, yn cryfhau llais cymunedau cefn gwlad ac yn helpu i ddylanwadu ar y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.

Bydd cymorth i ffermydd yn y dyfodol yn targedu ffermwyr gweithredol, a bydd Plaid Cymru’n datblygu strategaeth i ddod â phobl newydd ac ifanc i’r diwydiant. Bydd ffermydd awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol, a byddwn ni’n gweithio gyda chyrff cyhoeddus a’r trydydd sector yn ehangach i ddod o hyd i ffyrdd o ddiogelu a gwella’r ystâd ffermydd gyhoeddus fel troedle pwysig ar gyfer pobl sy’n newydd i’r diwydiant yn y dyfodol.

Rydyn ni hefyd yn cydnabod y cyfraniad cymdeithasol ehangach pwysig y mae clybiau ffermwyr ifanc ledled Cymru’n ei wneud, a byddwn ni’n gweithio gyda’r Clybiau Ffermwyr Ifanc i ddatblygu ac i gynyddu’r rôl allweddol maen nhw’n ei chwarae yn ein cymunedau cefn gwlad.

Rydyn ni’n ymrwymo i ddefnyddio’r mesurau mwyaf effeithiol i reoli ac i waredu TB, gan ddefnyddio gwersi o lefydd eraill yn y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt. Byddwn ni hefyd yn cefnogi gwaith i daclo heriau iechyd anifeiliaid eraill, fel Dolur Rhydd Feirysol Buchol a’r Clafr.

Byddwn ni:

  • Yn gweithio’n agos gyda Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â throseddu gwledig, yn benodol i geisio datganoli grymoedd i allu gweithredu’n fwy ar ymosodiadau cŵn ar dda byw ffermydd.
  • Yn cefnogi diwydiant Gwlân Cymru, drwy annog defnydd o wlân Cymru mewn adeiladau cyhoeddus ac wrth adeiladu tai a phrosiectau adnewyddu, ynghyd â chefnogi ymdrechion i gynyddu ymchwil i Wlân Cymru a chapasiti prosesu.
  • Yn buddsoddi mewn gwyddoniaeth a thechnoleg wledig i ymchwilio, datblygu a hyrwyddo dulliau mwy cynaliadwy o fodloni anghenion. Byddwn ni’n canolbwyntio’n benodol ar arloesedd yn ymwneud ag ymaddasu i newid hinsawdd, effeithlonrwydd defnydd o adnoddau, lleihau gwastraff, gwella cnydau a da byw, a rheoli plâu a chlefydau.
  • Yn gweithio gyda ffermwyr i leihau effaith a’r defnydd o wrteithwyr, plaleiddiaid, chwynladdwyr, gwrthfiotigau, a lefelau gwastraff nitrad.
  • Yn anelu i gynyddu lefel y ffermio organig yng Nghymru yn sylweddol, a thyfu’r sector garddwriaeth yn sylweddol.
  • Yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wella cysylltedd gwledig – yn benodol gwasanaethau band llydan a ffonau symudol.
  • Yn ymrwymo i weithio gydag elusennau iechyd meddwl gwledig, undebau ffermio, Clybiau Ffermwyr Ifanc ac eraill er mwyn sicrhau bod cymorth a chyngor ar gael ac yn hygyrch i bawb sydd ei angen.

Bydd Plaid Cymru’n ailedrych ar reoliadau Parthau Perygl Nitradau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru ychydig wythnosau cyn yr etholiad.

Roedd gorfodi Parth Perygl Nitradau Cymru gyfan yn mynd yn groes i gyngor ymgynghorydd statudol Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydyn ni o’r farn bod y rheoliadau’n anghymesur, ac y gallai ymagwedd ‘ffermio ar sail y calendr’ achosi digwyddiadau llygredd eraill. Bydd y buddsoddiad cyfalaf y bydd ei angen i fodloni’r rheoliadau newydd (yr amcangyfrifir eu bod hyd at £360 miliwn gan y Llywodraeth) bron £100 miliwn yn uwch na chyfanswm yr incwm o ffermio yng Nghymru yn 2019. Bydd hyn yn gorfodi llawer o fusnesau allan o fusnes.

Yn hytrach, byddwn ni’n gweithio gyda’r diwydiant, Cyfoeth Naturiol Cymru, a rhanddeiliaid eraill i ddiddymu Parthau Perygl Nitradau Llafur, a chyflwyno rheoliadau wedi’u targedu’n well yn ein chwe mis cyntaf yn y Llywodraeth. Bydd hyn yn cael ei ategu ag ymagwedd wirfoddol wydn mewn meysydd eraill, yn seiliedig ar gynlluniau sydd wedi dangos llwyddiant yn lleihau lefelau nitradau.

Dwi'n pleidleisio dros y Blaid

10,424 votes

Gyda channoedd o ymgeiswyr a chefnogwyr Plaid Cymru yn ymgyrchu ar hyd a lled y wlad, byddai'n help mawr i ni wybod eich bod yn pleidleisio drosom, gan ein galluogi i ganolbwyntio ein hymdrechion ar berswadio'r rhai sydd heb benderfynu sut i bleidleisio eto.

Os ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru eleni, rhowch wybod i ni.

Ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru?

Gan ateb yr holiadur yma, rydych yn cytuno gall Blaid Cymru recordio'ch barn gwleidyddol a'i ddefnyddio er mwyn ymgyrchu. Gallwch ddarganfod ein polisi preifatrwydd yma.

Ydw rydw i yn cefnogi Plaid Cymru.
Na nid wyf yn cefnogi Plaid Cymru.
Efallai fy mod yn cefnogi Plaid Cymru, dywedwch fwy wrthyf.

Amaeth, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: darllen mwy