Wynebu’r Argyfwng Hinsawdd a Natur
Wynebu’r Argyfwng Hinsawdd a Natur yw her ein cyfnod, ac ar sail hyn y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn ein beirniadu fwyaf. Oni bai bod llywodraethau ledled y byd yn camu i’r adwy, bydd digwyddiadau tywydd anghyffredin yn dod yn gyffredin, bydd newidiadau eithafol i’n hinsawdd yn effeithio ar y rhai mwyaf difreintiedig, a bydd ein byd natur yn dioddef niwed na fydd modd ei ddadwneud. Mae Plaid Cymru’n barod i wynebu’r her hon fel llywodraeth.
Er mwyn cymryd newid hinsawdd o ddifrif, mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r mater ar draws sawl maes, a’i wreiddio wrth galon penderfyniadau ar bob lefel o lywodraeth. Bydd mynd i’r afael â’n heffaith niweidiol ar y blaned yn gyfrifoldeb casgliadol ar y llywodraeth gyfan, dan arweiniad Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, fydd â’r cyfrifoldeb uniongyrchol cyffredinol.
Byddwn ni’n sicrhau bod pob cyllideb adrannol yn y Llywodraeth yn ymroddedig i adfer yr hinsawdd a natur. Drwy hyn, bydd pob Gweinidog yn buddsoddi ac yn gwreiddio natur mewn penderfyniadau a fydd, yn y pen draw, yn darparu ar gyfer pawb – o benderfyniadau iechyd hyd at gynllunio llywodraeth leol. Bydd ein llywodraeth hefyd yn adolygu’r gyllideb gyfan er mwyn sicrhau bod yr adnoddau a ddyrennir i ddatgarboneiddio ac adfer natur yn cyfateb i’r angen dybryd, ac yn adlewyrchu ein huchelgais.
Bydd gofyn i awdurdodau lleol leihau Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (carbon deuocsid, methan, ac ocsid nitraidd) yn eu hardal drwy osod cyllidebau Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr lleol. Dylai cynlluniau pensiwn llywodraeth leol ddadfuddsoddi o danwydd ffosil, a chydweithio gyda Phartneriaeth Pensiwn Cymru i nodi cyfleoedd ail-fuddsoddi addas.
O dan ymbarél y Banc Datblygu ac ar y cyd â’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol, byddwn ni’n creu Banc Seilwaith Cenedlaethol i Gymru. Bydd hyn yn ariannu’r gwaith o gynhyrchu a storio ynni adnewyddadwy ar gyfer adeiladau cyhoeddus, tai, a gweithleoedd. Bydd yn cynnig credyd ar gyfer cwmnïau cydweithredol a chyfleustodau ynni lleol, fel bod modd i gymaint o’r seilwaith hwn â phosib fod dan berchnogaeth ddemocrataidd ar lefel leol.
Dwi'n pleidleisio dros y Blaid
10,424 votesGyda channoedd o ymgeiswyr a chefnogwyr Plaid Cymru yn ymgyrchu ar hyd a lled y wlad, byddai'n help mawr i ni wybod eich bod yn pleidleisio drosom, gan ein galluogi i ganolbwyntio ein hymdrechion ar berswadio'r rhai sydd heb benderfynu sut i bleidleisio eto.
Os ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru eleni, rhowch wybod i ni.
Ydych chi'n pleidleisio dros Blaid Cymru?
Gan ateb yr holiadur yma, rydych yn cytuno gall Blaid Cymru recordio'ch barn gwleidyddol a'i ddefnyddio er mwyn ymgyrchu. Gallwch ddarganfod ein polisi preifatrwydd yma.